Mae nifer y bobol ar un o restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cyrraedd ei nifer fwyaf erioed, gyda 750,000 o bobol yn disgwyl cael eu gweld.

Mae nifer y bobol sy’n aros dros ddwy flynedd bellach yn 59,350, sydd bron i deirgwaith yn fwy na’r ffigwr flwyddyn yn ôl.

Unwaith yn unig y bydd claf unigol yn cael ei gyfrif wrth fesur cleifion ar restrau aros, ond gall gael ei gyfrif sawl gwaith wrth fesur llwybr cleifion.

Dangosodd yr ystadegau diweddaraf hefyd fod un ym mhob pedwar claf o Gymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth, ond dim ond un ym mhob 20 yw’r ffigwr yn Lloegr.

Roedd ffigurau ychwanegol yn dangos bod traean (32%) o gleifion wedi gorfod aros yn hwy na’r targed o bedair awr i gael eu gweld yn yr adran damweiniau ac achosion brys fis diwethaf.

Yn Lloegr a’r Alban, y ffigur cyfatebol oedd 29% a 30%, yn y drefn honno.

Canfyddiadau

Datgelodd ystadegau hefyd:

  • mai Bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro oedd yr ardal a berfformiodd waethaf yn y wlad yn erbyn y targed damweiniau ac achosion brys pedair awr, gan weld dim ond 62% mewn pedair awr
  • bod rhaid i 53% o gleifion aros dros bedair awr mewn adrannau brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd, sy’n golygu mai dyma’r safleoedd a berfformiodd waethaf yng Nghymru
  • bod dros 10,000 o gleifion wedi aros dros 12 awr yn ysbytai Cymru
  • bod oedolion 85+ oed wedi treulio saith awr ar gyfartaledd mewn adrannau brys.

O ran perfformiad ambiwlansys ym mis Medi, dim ond 50% o ymatebion i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol a gyrhaeddodd o fewn wyth munud – y gyfradd waethaf ar gofnod erioed.

Dydy’r targed o 65% o alwadau coch yn cyrraedd eu claf o fewn wyth munud ddim wedi’i gyrraedd ers dwy flynedd.

Fe gymerodd dros awr i gyrraedd 64% o gleifion ar alwadau oren, sy’n cynnwys strôc, gyda dim ond 19% yn cyrraedd o fewn 30 munud.

Roedd yr ambiwlansys fwyaf araf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda dim ond 41% yn cyrraedd o fewn y targed o wyth munud ar gyfer galwadau coch.

Dim ond 30% ddaeth i’r lleoliad o fewn awr i alwad oren yng Nghwm Taf Morgannwg.

Daw’r ffigurau fis ar ôl i Archwiliad Cymru rybuddio y gallai gymryd saith mlynedd i glirio ôl-groniad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a dywed Cymdeithas Feddygol Prydain fod pwysau traddodiadol y gaeaf bellach drwy gydol y flwyddyn, a bod dirfawr angen strategaeth gweithlu gan y Llywodraeth Lafur.

‘Allan o reolaeth’

“Mae methiant y Llywodraeth Lafur i baratoi ar gyfer adferiad pandemig yn parhau i gael ei deimlo gan bobol Cymru wrth iddynt brofi’r rhestrau aros hiraf am driniaeth, oedi mewn ambiwlansys, ac amseroedd aros Damweiniau ac Achosion Brys ym Mhrydain,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r methiant hwn i gynllunio ar gyfer ail-agor ysbytai wedi golygu bod darparu gofal iechyd allan o reolaeth – mae staff yn gwneud eu gorau i ymdopi â’r galw ond mae diffyg arweinyddiaeth o’r canol wedi golygu bod gweinidog yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hollol ddirgel.

“Ers dwy flynedd rydym wedi galw am ganolfannau llawfeddygol i leihau’r ôl-groniad, rhywbeth a gefnogir gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

“Gwnaeth y Ceidwadwyr yn Lloegr, ond ni wnaeth Llafur yng Nghymru. Nawr mae 59,000 o bobol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth yng Nghymru, ond nid oes amseroedd aros o’r fath yn Lloegr.

“Dyma gost Llafur – nawr mae angen iddyn nhw gael gafael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhoi’r gorau i dorri’r holl recordiau anghywir.”

Parhau i weithio gyda byrddau iechyd

“Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau am y pumed mis yn olynol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn ostyngiad o 16 y cant ers y brig ym mis Mawrth.

“Mae miloedd o bobol yn dal i gael eu gweld a’u trin gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, a chynhaliwyd mwy na 338,000 o ymgynghoriadau ym mis Awst.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i weld sut gallwn eu cefnogi orau i gwrdd â’n targedau gofal a gynlluniwyd.

“Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gweinidog Iechyd gyfarfod gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i glywed eu cynlluniau ynglŷn â sut y maent yn gweithio i leihau’r rhestrau aros.

“Yn ystod mis Awst caewyd ychydig dros 93,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol ers cyfnod cynnar y pandemig a 27 y cant yn uwch nag ar gyfer yr un mis yn 2021.

“Mae staff gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau mawr, ac rydym yn gweithio gydag arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi gwelliannau.

“Rydym yn cydnabod nad yw perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ein disgwyliadau ni yn GIG Cymru, na disgwyliadau’r cyhoedd, ac rydym yn arwain ymateb system gyfan i gefnogi gwelliant.

“Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gymryd perchnogaeth a lleihau’r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansiau, yn ogystal â gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella prydlondeb o ran anfon cleifion adref o’r ysbyty.

“Mae perfformiad wedi gwella yn erbyn y safonau pedair awr a deuddeg awr a bu lleihad bychan yn yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng.

“Ym mis Medi gwelwyd y perfformiad gorau yn erbyn y safon pedair awr ers mis Ionawr 2022 ac mae hyn yn tystio i waith caled staff yr adrannau argyfwng yn wyneb y pwysau parhaus ar y system.”