“Mae’r diwedd ar fin dod” i Liz Truss, yn ôl Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.
Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn cyfarfod â Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, yn Downing Street ar hyn o bryd.
Y pwyllgor hwn sy’n penderfynu a ddylid cynnal pleidlais hyder yn erbyn y Prif Weinidog, ac a ddylid galw etholiad cyffredinol.
Daw’r cyfarfod yn dilyn rhybuddion gael aelodau seneddol Ceidwadol mai hyn o hyn o amser sydd ganddi i achub ei swydd, ac wrth i nifer gynyddol o wleidyddion o’i phlaid ei hun alw arni i gamu o’r neilltu.
Mae lle i gredu bod nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi cyflwyno llythyron i Syr Graham Brady yn galw am ei hymddiswyddiad, ac yn eu plith mae Jamie Wallis, Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn wynebu ansicrwydd sylweddol ar hyn o bryd, yn dilyn diswyddo’r cyn-Ganghellor Kwasi Kwarteng, gan chwalu cynlluniau economaidd Liz Truss ar yr un pryd, ac ymddiswyddiad Suella Braverman ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi defnyddio technoleg bersonol i anfon e-bost gwaith.
Ac mae’r helynt diweddaraf yn dilyn ffrae o fewn y Blaid Geidwadol, gydag adroddiadau bod pwysau arnyn nhw i gefnogi cynlluniau ffracio Liz Truss neu wynebu cael eu disgyblu.
https://twitter.com/RhonddaBryant/status/1583053419593445377