Dylid creu trosedd newydd ar gyfer pobol sy’n gweithio mewn swyddi o ymddiriedaeth sy’n methu ag adrodd am honiadau o gam-drin plant yn rhywiol, yn ôl adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Byddai hyn yn cynnwys “unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant” o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
Mae gan Gymru ddyletswydd statudol i adrodd, ond dim cosb am beidio â gwneud hynny.
Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae’r ymchwiliad wedi edrych ar 13 o feysydd penodol, wedi cynnal amryw o seminarau a gwrandawiadau cyhoeddus ac wedi clywed yn uniongyrchol gan filoedd o ddioddefwyr a goroeswyr – gyda llawer o’r rhain yn siarad am eu profiadau am y tro cyntaf.
Galwodd yr adroddiad natur a graddfa camdrin yng Nghymru a Lloegr yn “erchyll ac annifyr iawn” gyda phlant yn “dan fygythiad, yn cael eu curo a’u bychanu”.
Disgrifiodd yr Athro Alexis Jay, y cadeirydd, “epidemig sy’n gadael miloedd o ddioddefwyr yn ei sgil wenwynig”.
Mae’n galw am greu awdurdod amddiffyn plant, un ar gyfer Lloegr ac un ar gyfer Cymru, sy’n ffurfio un o dri argymhelliad craidd, ynghyd ag iawndal ariannol i ddioddefwyr a dyletswydd i adrodd yn orfodol am gam-drin plant yn rhywiol ar bobol sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir neu mewn swyddi o ymddiriedaeth.
Gwasanaethau cyhoeddus angen adnoddau i ddelio gyda’r adroddiadau
“Dylai bod cyfrifoldeb ar bawb i adrodd os ydyn nhw’n gwybod bod rhywbeth yn mynd ymlaen,” meddai Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, wrth golwg360.
“Mae yna ormod o bobol efallai sydd ddim yn gwybod, ond yn meddwl bod rhywbeth yn mynd ymlaen ble dylai fod ymchwiliad pellach.
“Mae yna lot o gyfeirio yn dod gan blismyn a gweithwyr cymdeithasol a ddim gymaint gan weithwyr mewn llefydd eraill fel athrawon a gweithwyr iechyd.
“Felly, mae’n gofyn y cwestiwn ‘pam’?
“Ydyn nhw’n adrodd be’ ddylen nhw fod yn adrodd?
“Mae yna le i wella hyn.”
Gyda deddfwriaeth yn ei lle, byddai Arfon Jones yn disgwyl i adroddiadau gynyddu, meddai.
Ond mae’n poeni am ariannu’r gwasanaethau i ganiatáu iddyn nhw fynd i’r afael â’r cynnydd.
“Ar hyn o bryd mae gwasanaethau cymdeithasol dan bwysau cynyddol ac mae hyn am roi nhw dan fwy o bwysau,” meddai.
“Felly, dw i’n cefnogi hyn ond mae’n bwysig fod gan wasanaethau’r adnoddau sydd angen i ymateb i’r adroddiadau’n broffesiynol.
Byddai toriadau i gyllideb gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud y gwaith yn anodd iawn, meddai.
“Mae un am ganslo’r llall allan.
“Os ydyn nhw am gario ymlaen i wneud toriadau, fyddai’r ddeddfwriaeth ddim yn diogelu plant.”