Mae Liz Truss, arweinydd y Ceidwadwyr, wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad.

Mewn datganiad y tu allan i 10 Downing Street, cadarnhaodd ei bod hi am adael ei rôl yn arweinydd y Ceidwadwyr, ond yn parhau’n Brif Weinidog hyd nes y bydd y blaid yn dewis arweinydd newydd.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr ddewis arweinydd newydd o fewn wythnos.

Mae hi wedi bod mewn grym ers 44 diwrnod yn unig.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Jeremy Hunt eisoes wedi cadarnhau na fydd yn sefyll i’w holynu ond mae adroddiadau y gallai Boris Johnson ddychwelyd.

Cefndir

Daeth cyhoeddiad Liz Truss yn dilyn cyfarfod â Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, yn Downing Street.

Y pwyllgor hwn sy’n penderfynu a ddylid cynnal pleidlais hyder yn erbyn y Prif Weinidog, ac a ddylid galw etholiad cyffredinol.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn dilyn rhybuddion gael aelodau seneddol Ceidwadol mai hyn a hyn o amser oedd ganddi i achub ei swydd, ac wrth i nifer gynyddol o wleidyddion o’i phlaid ei hun alw arni i gamu o’r neilltu.

Mae lle i gredu bod nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi cyflwyno llythyron i Syr Graham Brady yn galw am ei hymddiswyddiad, ac yn eu plith roedd Jamie Wallis, Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn wynebu ansicrwydd sylweddol ar hyn o bryd, yn dilyn diswyddo’r cyn-Ganghellor Kwasi Kwarteng, gan chwalu cynlluniau economaidd Liz Truss ar yr un pryd, ac ymddiswyddiad Suella Braverman ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi defnyddio technoleg bersonol i anfon e-bost gwaith.

Ac mae’r helynt diweddaraf yn dilyn ffrae o fewn y Blaid Geidwadol, gydag adroddiadau bod pwysau arnyn nhw i gefnogi cynlluniau ffracio Liz Truss neu wynebu cael eu disgyblu.

‘Syrcas’

Ymhlith y rhai cyntaf yng Nghymru i ymateb i’r newyddion mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, sy’n dweud bod yna “syrcas” yn San Steffan ar hyn o bryd.

“Mae’r syrcas ddi-drefn hon yn brawf unwaith ac am byth na fydd San Steffan fyth yn gweithio er lles Cymru,” meddai ar Twitter.

“Dim ond Plaid Cymru all cynnig llais i gymunedau Cymru a gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwell.

“Prif Weinidog arall wedi mynd – ond does dim cydnabyddiaeth o hyd nad yr unigolion yn Downing Street ydi’r broblem, ond y gwrthgyferbyniadau sylfaenol o fewn y blaid Dorïaidd ar y cyfan.

“Fe wnaeth celwyddau Brexit greu facwwm o atebolrwydd yn San Steffan – gan alluogi selotiaid di-ddawn i gipio’r awenau heb syniad ynghylch sut i’w defnyddio nhw.

“Mae pobol Cymru’n edrych mewn dychryn ar yr anhrefn ar ôl cael pregeth ers blynyddoedd fod angen San Steffan arnon ni i oroesi.

“Mae angen etholiad cyffredinol arnom ar frys fel y gall pobol Cymru wrthod yr anhrefn yma yn San Steffan yn y blwch pleidleisio.

“Mae dyletswydd ar aelodau seneddol Ceidwadol Cymreig i gydnabod ei bod hi ar ben ar eu llywodraeth.

“Oni bai eu bod nhw’n gwneud hynnhy, bydd yr anhrefn warthus hon yn llusgo yn ei blaen yn ddi-ben-draw.”

Galw am etholiad cyffredinol

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw am gynnal etholiad cyffredinol.

“Gwnaeth Liz Truss y peth cywir wrth ymddiswyddo, ond gadewch i ni fod yn glir – nid hi nac unrhyw weinidog unigol ydi’r broblem – mae’r Blaid Geidwadol gyfan yn ddiffygiol o’r top i’r gwaelod a dydy hi ddim yn ffit i arwain y wlad,” meddai.

“Ers 2015, mae’r Ceidwadwyr wedi mynd o un eithaf i’r llall, gan achosi fandaliaeth economaidd ar raddfa enfawr.

“Mae arnom ddyled i aelwydydd, unigolion a busnesau ar hyd a lled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig sydd wedi’u bwrw’n galed gan yr argyfwng hwn, i weithredu’n gadarn rŵan hyn.

“Does dim angen Prif Weinidog Ceidwadol arall arnom yn mynd o un argyfwng i’r llall.

“Mae angen etholiad cyffredinol arnom, mae angen arnom y Ceidwadwyr allan o rym, ac mae angen newid gwirioneddol arnom.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n barod i frwydro etholiad cyffredinol a chwarae ein rhan wrth symud y Blaid Geidwadol allan o rym.”

Liz Truss “wedi gwneud y peth cywir”

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae Liz Truss “wedi gwneud y peth cywir”.

“Mae pobol, lle bynnag maen nhw’n byw yn y Deyrnas Unedig, yn gyfiawn yn poeni am yr argyfwng costau byw,” meddai.

“Rhaid i’r Prif Weinidog newydd fynd i’r afael â’r sefyllfa hon yn gyflym, a chynnig arweinyddiaeth, hyder a gobaith i bobol ar draws ein cenedl.

“Rhaid i’r Blaid Geidwadol ymateb i’r her hon, a gweithredu er lles pobol ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

‘Methiant llywodraethu llwyr’

“Mae hyn wedi bod yn fethiant llywodraethu llwyr gyda phawb bellach yn gorfod talu’r pris,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Mae’r rhaniadau dwfn o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu y bydd unrhyw olynydd yn wynebu’r un heriau.

“Mae’r diffyg arweinyddiaeth llwyr yn atal penderfyniadau a gweithredoedd rhag cael eu gwneud er mwyn mynd i’r afael â’r heriau niferus rydyn ni’n eu hwynebu a helpu pobol dros yr hyn sydd am fod yn aeaf anodd iawn.

“Yn anffodus, mae’r rhaniadau dwfn ac anodd eu trin o fewn y llywodraeth yn golygu y bydd unrhyw olynydd sy’n cael ei gyflwyno yn wynebu’r un set o heriau.

“Etholiad Cyffredinol yw’r unig ffordd nawr o ddod â’r parlys hwn i ben.”

Ceidwadwyr “wedi colli eu mandad i lywodraethu”

Yn ôl Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, mae’r Ceidwadwyr “wedi colli eu mandad i lywodraethu”.

“Fe wnaethon nhw chwalu’r economi trwy arbrawf ideolegol diofal a diangen yn goron ar 12 o flynyddoedd o fethiannau,” meddai.

“Gwaddol Ceidwadol y prosiect hwn yw argyfwng costau byw catastroffig, morgeisi uwch, rhenti a chwyddiant gyda phensiynau wedi’u hennill drwy waith caled mewn perygl.

“Mae pobol sy’n gweithio yn talu – a byddan nhw’n talu am yr esgeulustod grotésg hwn am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r cyhoedd yn haeddu cymaint gwell na hyn.”