Mae Chris Bryant wedi dileu llun oddi ar ei gyfrif Twitter ar ôl torri rheolau Tŷ’r Cyffredin, meddai.

Mewn neges ar Twitter, dywed Aelod Seneddol Llafur y Rhondda ei fod e wedi tynnu llun yn y lobi neithiwr (nos Fercher, Hydref 19), ond ei fod e bellach wedi dileu’r llun ar gais swyddog.

Mae lle i gredu bod y llun dan sylw’n dangos Ceidwadwyr yn cael eu bygwth yn ystod pleidlais ar bolisi mewnfudo dadleuol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n derbyn fy mod i wedi torri rheolau Tŷ’r Cyffredin wrth dynnu’r llun,” meddai.

“Fe wnes i hynny er mwyn datgelu drwg.

“Rwyf wedi ymddiheuro.

“Rwy’n hapus i’w dynnu i lawr yn ôl y cais.”