“Chwerthinllyd” yw’r gair mae Liz Saville Roberts yn ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfnod Liz Truss yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Wedi 44 diwrnod yn unig, mae’r ddynes gafodd ei dewis gan y Blaid Geidwadol i olynu Boris Johnson wedi ymddiswyddo, gan adael y gwrthbleidiau i gyd yn galw am etholiad cyffredinol.

Mewn datganiad y tu allan i 10 Downing Street, cadarnhaodd ei bod hi am adael ei rôl yn arweinydd y Ceidwadwyr, ond yn parhau’n Brif Weinidog hyd nes y bydd y blaid yn dewis arweinydd newydd.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr ddewis arweinydd newydd o fewn wythnos.

Daeth cyhoeddiad Liz Truss yn dilyn cyfarfod â Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, yn Downing Street.

Y pwyllgor hwn sy’n penderfynu a ddylid cynnal pleidlais hyder yn erbyn y Prif Weinidog, ac a ddylid galw etholiad cyffredinol.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn dilyn rhybuddion gael aelodau seneddol Ceidwadol mai hyn a hyn o amser oedd ganddi i achub ei swydd, ac wrth i nifer gynyddol o wleidyddion o’i phlaid ei hun alw arni i gamu o’r neilltu.

Mae lle i gredu bod nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi cyflwyno llythyron i Syr Graham Brady yn galw am ei hymddiswyddiad.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn wynebu ansicrwydd sylweddol ar hyn o bryd, yn dilyn diswyddo’r cyn-Ganghellor Kwasi Kwarteng, gan chwalu cynlluniau economaidd Liz Truss ar yr un pryd, ac ymddiswyddiad Suella Braverman ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi defnyddio technoleg bersonol i anfon e-bost gwaith.

“Chwerthinllyd o drist”

Dydy Liz Saville Roberts ddim yn gwybod “ar ba blaned” y mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn byw, gan ddisgrifio’r sefyllfa wleidyddol yn y Deyrnas Unedig fel un “chwerthinllyd o drist”.

“Dw i’n siŵr fy mod i’n siarad dros lawer o bobol pan dw i’n dweud fy mod i wedi cael llond bol ar ôl 12 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n ryfeddol bod y blaid yn cymryd yn ganiataol bod ganddyn nhw dal hawl i reoli.

“Mae’n hen bryd i ni gael newid, rydan ni angen newid er mwyn cael sefydlogrwydd oherwydd mae’r Blaid Geidwadol bellach wedi profi fod dim modd iddi fod yn sefydlog.

“Tristwch y peth ydi fod gennym ni, yn sicr ymhlith y Ceidwadwyr, ryw ddosbarth gwleidyddol sy’n bodoli er mwyn gweithredu ei seico-drama ei hun.

“Mae hyn i gyd i wneud â’r clashes ideolegol, eu clashes personoliaeth.

“Does yna ddim dealltwriaeth sylfaenol o ba mor wael mae hi ar bobol yn y byd go iawn.

“Dw i ddim yn gwybod ar ba blaned maen nhw’n byw, maen nhw wedi arfer gormod â bod mewn grym ac mae yna draheustra o gymryd yn ganiataol bod yna neb arall yn gallu gwneud y job.

“Ond bellach dw i ddim yn gweld sut mae’r Blaid Geidwadol yn gallu dadlau eu bod nhw o blaid democratiaeth a pharhau i roi newid cyfeiriad ar bobol Prydain heb fod gan bobol Prydain ddweud ar y mater.

“Mae’n gwneud i ni edrych yn wirion yn llygaid y byd, mae’n sefyllfa mor chwerthinllyd o drist.

“Maen nhw’n licio disgrifio San Steffan fel y fam senedd i ddemocratiaeth, lle sy’n arwain y byd drwy esiampl.

“Nid fel yma rydan ni’n arwain ar hyn o bryd.”

‘Angen dybryd am Lywodraeth Lafur’

Un arall sy’n credu ei bod hi’n hen bryd cynnal etholiad cyffredinol ydi Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru.

“Mae hi wedi bod yn amser cynnal etholiad cyffredinol ers cyn i’r Prif Weinidog adael,” meddai wrth golwg360.

“Allwn ni ddim cario ymlaen fel hyn, mae yna angen dybryd am Lywodraeth Lafur.

“Dw i’n synnu dim bod Liz Truss wedi para cyn lleied o amser yn y swydd.

“Fe welsom ni o’r ffordd y cafodd y ras arweinyddiaeth ei rhedeg nad oes dim parch na chyfeillgarwch ymysg aelodau’r Ceidwadwyr.

“A’r hyn a gafwyd oedd Prif Weinidog oedd yn byw mewn byd ffantasi, roedd y craciau yn glir cyn iddi hyd yn oed gael ei phenodi.

“Dydy’r Blaid Geidwadol ddim wedi bod â mandad ers amser hir, alli di ddim cael prif weinidogion, un ar ôl y llall, heb ofyn barn y bobol.

“Roedd hi’n ddigon drwg disodli Boris Johnson a phenodi Liz Truss, fe fyddai rhoi rhywun arall yn Rhif 10 nawr heb roi cyfle i’r wlad gael dweud eu dweud yn anfaddeuol.”

‘Syniadau a datrysiadau’

Fodd bynnag, dydy Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddim yn credu y dylai etholiad cyffredinol gael ei alw.

“Na, dw i ddim yn credu ei bod hi’n bryd cynnal etholiad cyffredinol,” meddai wrth golwg360.

“Fe gafodd y Ceidwadwyr fandad clir yn etholiad cyffredinol 2019 ac yn y bôn roedd y mandad hwnnw am bum mlynedd.

“Dydy’r bythefnos ddiwethaf ddim wedi bod yn ddigon da, ond o ystyried y sefyllfa economaidd a’r rhyfel yn Wcráin, nid dyma’r adeg gywir i gyflwyno mwy o ansicrwydd i’r hyn sydd eisoes yn sefyllfa ansicr.

“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw bod yr wythnos nesaf yn cael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol i ffeindio’r unigol sydd am gynnig y syniadau a’r datrysiadau i wthio’r wlad yn ei blaen.”

Ta-ta Liz Truss

Arweinydd y Ceidwadwyr wedi ymddiswyddo, gan ddweud y bydd etholiad arweinyddol o fewn wythnos