Mae ymgyrch Llond Bol yn gobeithio dod â’r gymuned at ei gilydd am brydau am ddim ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle.

Daw hyn yng nghanol yr argyfwng costau byw, ond nid dyna’r unig reswm tu ôl yr ymgyrch.

Mae Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon, yn gobeithio nad cegin gawl fydd prosiect Llond Bol, sy’n rhedeg dan fenter gymunedol Yr Orsaf, ond rhywle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd, waeth beth yw eu sefyllfa.

Bu’r criw o wirfoddolwyr yn cyfarfod yn Neuadd Goffa Penygroes neithiwr (nos Fercher, Hydref 19) er mwyn clymu popeth ynghyd.

Bydd y nosweithiau’n rhedeg rhwng 5:30yh a 7:30yh bob nos Fercher, gan ddechrau ar Hydref 26.

Gofod i gysylltu

“Y syniad gwreiddiol tu ôl i’r peth oedd i’r gymuned gael gofod lle rydan ni’n cysylltu efo’n gilydd,” meddai Trey McCain wrth golwg360.

Yn ddiweddar, mae wedi bod yn rhan o gynulliad sy’n cael ei redeg ar draws Gwynedd gan GwyrddNi, mudiad newydd sy’n cael ei arwain gan y gymuned er mwyn gweithredu ar newid hinsawdd.

“Roedd rhai o’r bobol yn y cynulliadau yn sôn am theori ymateb i newid hinsawdd yn ein cymunedau drwy leihau gwastraff bwyd, er enghraifft,” meddai.

“Rydan ni angen trafod pethau fel hyn yn fwy aml ac efo nifer fwy eang o’r gymuned.

“Felly dyna wnaeth sbarduno’r syniad.

“Ond mae hefyd yn ymateb i’r argyfwng costau byw rydan ni’n byw ynddi.

“Rydan ni angen cefnogi’r bobol yn ein cymunedau sy’n cael trafferth gyda biliau a chostau byw uwch, ond hefyd y rhai sy’n profi iselder tymhorol.

“Rydyn ni’n clywed gan lot o bobol sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig felly mae angen ffordd i ni gyd ddod at ein gilydd.

“Dydi o ddim yn syniad cegin gawl, ond dod at ein gilydd i rannu pryd o fwyd.

“A dw i’n gobeithio o hynny ddaw ffyrdd gwahanol o gefnogi ein gilydd yn well.

“Man cychwyn ydy hwn.

“Ond mae popeth wedi dod at ei gilydd yn sydyn.

“Mae angen i ni ymateb i beth mae pobol yn mynd trwyddo.”

Ond o le ddaw’r cynhwysion?

Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi derbyn ymateb da gan y cyhoedd, wrth iddyn nhw gynnig rhoddion ariannol a chynhwysion, meddai Trey McCain.

Mae’r prosiect hefyd yn derbyn cefnogaeth gan eglwysi lleol.

“Rydyn ni hefyd wedi rhoi cais mewn i’r cyngor gan fod y llywodraeth yn ddiweddar wedi rhyddhau ariannu ar gyfer prosiectau fel hyn yn ein cymunedau,” meddai.

Ond un ffactor bwysig i’r trefnwyr ydy bod y cynhwysion yn lleol i Ddyffryn Nantlle.

“Bydd rhan o’r cynhwysion yn dod gan bobol a ffermydd lleol fel ein bod ni’n cefnogi ein gilydd a’r busnesau,” meddai wedyn.

“Felly fydd y llysiau’n dod o ffermydd lleol a bydd y pwdin a’r bara yn dod o gaffis lleol wedi eu paratoi’n barod.”