Mae casgliad o eitemau sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan bellach i’w gweld yn oriel Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mae’n 56 o flynyddoedd union bellach ers y trychineb ar Hydref 21, 1966.

Mae’r eitemau sy’n rhan o’r arddangosiad yn cynnwys cist ddroriau o Ysgol Gynradd Pantglas, lamp glöwr gafodd ei chanfod yn y rwbel, a rhaglenni gemau pêl-droed a gafodd eu casglu gan rieni Gareth Jones, a oroesodd y drychineb yn chwech oed.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys dyddiadur Gaynor Madgwick, a gafodd ei hachub o’r rwbel, a hithau’n wyth oed.

Mae’r eitemau hyn yn ymuno â’r cloc eiconig a stopiodd am 9.13am, sef moment trychineb Aberfan.

Cafodd y cloc ei roi i’r casgliad cenedlaethol yn gynharach eleni, ac mae wedi bod yn cael ei arddangos yn oriel Cymru ers mis Chwefror.

Roedd y cloc wedi’i gadw’n ddiogel am flynyddoedd yng nghartref Mike Flynn, mab Mike Flynn (yr hynaf) a aeth i Aberfan i helpu.

Roedd Mike Flynn yn bostmon ac yn barafeddyg gyda’r Fyddin Diriogaethol ar y pryd.

‘Digwyddiad allweddol yn hanes Cymru’

“Mae trychineb Aberfan yn ddigwyddiad allweddol yn hanes Cymru, ac rydym yn falch o allu cynrychioli’r hanes yn yr Amgueddfa,” meddai Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

“Rydyn ni’n ychwanegu at gasgliad Aberfan er mwyn sicrhau na chaiff y stori hon fyth ei hanghofio.”