Am yr eildro yn olynol, mae gan Gaernarfon Faer sydd â chefndir tramor, cyfenw o dramor ac sydd o gefndir Pabyddol.

Cai Larsen sy’n olynu Maria Sarnaski, gafodd ei hethol i’r rôl ddwy flynedd yn ôl.

Maen nhw hefyd wedi torri tir newydd drwy ethol y dirprwy faer ieuengaf yn hanes y Cyngor, yn ôl pob tebyg, wrth i Dewi Jones gamu i’r rôl.

Tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yng ngwir ysbryd y Cofis, mae Cyngor Tref Caernarfon wedi gwneud cryn waith ar lefel gymunedol a’r gobaith yw datblygu ar hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

“Ar un llaw mae’n fraint ac anrhydedd, ond doeddwn erioed wedi bwriadu bod yn faer,” meddai Cai Larsen wrth golwg360.

“Cefais fy mherswadio i’w wneud o.

“Efallai bod y sbloets sydd ynghlwm â fo ddim yn rhywbeth sydd yn apelio ata’ i, ond eto rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth fy nghyd-gynghorwyr.”

Gwaith cymunedol ar y gweill

Er nad oes gan gynghorau tref lawer o rym, mae Cai Larsen yn teimlo bod Cyngor Tref Caernarfon yn gwneud llawer mwy dros y gymuned nag y mae gofyn statudol iddyn nhw ei wneud, gan gefnogi mentrau cymunedol fel Menter Porthi Dre, hwb cymunedol newydd yng Nghaernarfon, a’r siop ddillad i blant, O Law i Law.

“Mae yna wahanol bethau ar y gweill,” meddai.

“Un o’r pethau mawr mae’n gwneud ar hyn o bryd mae’n helpu cydlynu menter newydd yng Nghaernarfon Porthi Dre.

“Rwy’n digwydd bod yn Gadeirydd Porthi Dre hefyd.

“Rwy’n gobeithio defnyddio’r ddwy rôl i helpu symud ymlaen efo nifer o gynlluniau, gan gynnwys datblygu Porthi Dre.”


‘Falch o Gyngor Caernarfon’

Neithiwr (nos Iau, Mai 18), ar ôl y seremoni ‘gwneud’, rhoddodd Olaf Cai Larsen araith am ba mor falch ydy o o Gyngor Caernarfon a’r holl waith maen nhw’n ei wneud ynghyd â gwirfoddolwyr i’r gymuned leol.

Yn ôl Cai Larsen, oherwydd y cyfnod clo y daeth nifer o gynlluniau gwirfoddol i fodolaeth ac mae’r effaith i’w weld hyd heddiw.

Dywed fod Cyngor Caernarfon hefyd wedi ariannu nifer o bethau oedd rhaid eu gwneud yn statudol.

“Mi fanteisia i ar y cyfle i ddweud wrthych pa mor falch ydw i o Gyngor Caernarfon, a’r ffordd mae wedi gweithredu yn ystod y blynyddoedd dwi’n gyfarwydd efo nhw – y blynyddoedd ers i fi gael fy ethol yn 2017,” meddai Olaf Cai Larsen ar noson y seremoni ‘gwneud’.

“Nid sôn am deitl brenhinol y Cyngor ydw i na’r adeilad hardd yma na’r traddodiad hir sydd ynghlwm â’r Cyngor yma, ond yn hytrach rhywbeth arall – rhywbeth sy’n mynd i galon gwasanaeth cyhoeddus – a pham bod pobol yn ymgymryd â gwasanaeth cyhoeddus.

“Fel y soniais yn gynharach mae’r cyfnod rwy’n gyfeirio ato wedi cynnwys cyfnod anodd iawn, sef cyfnod y Covid a’r cyfnod clo.

“Mewn aml i ffordd, daeth y cyfnod hwnnw â’r gorau o drigolion Caernarfon, a daeth nifer o gynlluniau gwirfoddol i fodolaeth, cynlluniau oedd yn gefn sylweddol i drigolion y dref ac yn arbennig y trigolion mwyaf bregus yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy o anodd.

“Wna i ddim enwi’r gwahanol gynlluniau rhag i mi fethu rhai, ond roedd rôl y Cyngor yma yn ystod y cyfnod yn gwbl allweddol – o ran helpu ariannu’r rhan fwyaf o’r cynlluniau, o ran cydlynu nifer o’r gweithgareddau, o ran rhoi cyhoeddusrwydd i’r cymorth oedd ar gael, o ran rhoi cymorth gweinyddol ac ymarferol i gynlluniau, ac roedd staff a chynghorwyr y Cyngor yn ganolog i hyn oll, yn greiddiol i hyn oll.

“Mi ddaeth y cyfnod clo i ben ond mi adawodd waddol – gwaddol oedd, yn eironig ddigon, yn waddol cadarnhaol.

“Mi wnaeth yr arfer o wirfoddoli helpu creu diwylliant o wirfoddoli ac mi arweiniodd hynny yn ei dro at gynlluniau newydd ôl-Covid – Fareshare, er enghraifft – cynllun oedd wedi cychwyn efo Kenny Khan yn y cyfnod cyn Covid – lle mae bwyd yn cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim tros y penwythnosau a lle gall pobol lenwi bag efo bwyd am £3 ar ddyddiau Mercher.

“Siop gymunedol ar Stryd Llyn yn esiampl arall, O Law i Law, sy’n gwerthu nwyddau plant ail law o safon uchel am bris rhesymol ac sydd yn prysur dyfu i fod yn sefydliad pwysig yn y dre’.

“Neu’r Hwb Cymunedol yn Ffordd Santes Helen, Porthi Dre, sefydliad sydd efo cegin fasnachol o safon uchel ac sy’n cyflogi cogydd ac yn cydweithio efo nifer o bartneriaid i gynnig gwasanaethau pwysig i drigolion y dref a’r cylch, ac sy’n cyflym ddatblygu i fod adnodd hanfodol i bobol y dref.

“Mae’r cynlluniau yma wedi manteisio ar y diwylliant o wirfoddoli.

“Rhwng y tri cynllun dwi wedi sôn amdanynt, mae tua hanner cant o wirfoddolwyr yn gwirfoddoli yn rheolaidd, rhai ohonynt yn y stafell yma rŵan, ac mi fydd yna ddigwyddiad bach i ddiolch iddyn nhw i gyd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

“Mae’r Cyngor yma, trwy ei staff a’i gynghorwyr, wedi chwarae rhan allweddol yn y datblygiadau yma i gyd.

“Yn wir, dwi’n eithaf sicr na fyddai’r un o’r cynlluniau yma wedi gallu datblygu i’r graddau maen nhw wedi datblygu heb fewnbwn y Cyngor.

“Ond nid dyna’n unig mae’r Cyngor wedi ei wneud – mae hefyd wedi mynd ati i wneud nifer fawr o bethau nad oes rhaid iddo ei wneud yn statudol.

“Ariannu darpariaeth glanhau strydoedd ei hun, wedi cymryd meddiant o Barc Coed Helen gyda’r pwrpas o fuddsoddi ynddo, wedi ariannu toriadau gwair ychwanegol, wedi ariannu clybiau ieuenctid a phob math o weithgareddau eraill sy’n digwydd yn y dre, wedi trefnu neu gyfrannu at nifer fawr o ddigwyddiadau Adloniant gan gynnwys yr Ŵyl Fwyd, un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf llwyddiannus y gogledd, wedi ariannu biniau halen a nifer o bethau eraill, gan gynnwys gwneud ymdrech rhannol lwyddiannus i fynd i’r afael efo problem oesol Caernarfon, y gwylanod swnllyd, barus, digywilydd rydan ni’n rhannu tref efo nhw.

“A dyna pam dw i mor falch o Gyngor Caernarfon.

“Mae’n gwneud yr hyn y dylai pob Cyngor Tref a Chymuned ei wneud – mae yn mynd ymhell, bell y tu hwnt i’w ddyletswyddau statudol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol go iawn.

“Datblygu’r waddol yna ydi fy ngobaith ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Rydan ni wedi gwneud llawer, ond mae llawer mwy i’w wneud.”