Bydd prosiect newydd yn golygu bod peiriannau “hawdd i’w defnyddio” ar gael i unrhyw un ailgylchu plastig.

Mae prosiect Trysori Plastig Cymru wedi derbyn £338,000 gan y Loteri, a bydd yn galluogi pobol i greu nwyddau o blastig wedi’i ailgylchu ar gyfer eu defnydd eu hunain.

Daw’r syniad o’r Iseldiroedd, ac mae’r cynllun yn golygu y bydd peiriannau mewn dau leoliad yng Nghymru, ynghyd â chefnogaeth i’w defnyddio, fel bod pobol yn creu nwyddau newydd o blastig a’u cadw.

Fe fydd y ddau leoliad cyntaf yn agor ym Mae Colwyn ac yn Nhreherbert, a bydd y rhaglen yn cael ei sefydlu dros yr haf.

Bydd y gweithdai yn galluogi pobol o bob oed i lanhau’r plastig, ei droi’n ddarnau bychain, a chynllunio a chreu gwrthrychau plastig newydd gan ddefnyddio mowld neu argraffydd 3D.

Gall y gwrthrychau hynny gynnwys casys ffôn, offer cegin, cynwysyddion, darnau ar gyfer waliau dringo, neu offer chwaraeon eraill.

Y ‘broblem blastig’

Cymunedau Cylchol Cymru sy’n gyfrifol am y cynllun, a’u targed yw helpu pedair cymuned yn y gogledd neu’r canolbarth a phedair arall yn y de erbyn y daw cyfnod y nawdd i ben yn 2025.

“Mae Cymunedau Cylchol Cymru wedi gweithio’n ddiflino am bum mlynedd er mwyn i hyn ddigwydd, gan greu cysylltiadau o’r dechrau gyda’r ffenomena hwn yn fydeang,” meddai’r grŵp.

“Mae yna tua 300 o brosiectau cymunedol ledled y byd.

“Mae derbyn y golau gwyrdd gan y Loteri yn caniatáu creu canolfan ranbarthol yn Ne Cymru ac un yng Ngogledd Cymru, eu staffio a chynnal eu datblygiad.”

Er bod cyfraddau ailgylchu Cymru’n uchel, mae’r darlun yn gymysg o ran y plastig sy’n cael ei ddidoli i bolymerau sengl a’i ailddefnyddio, meddai Cymunedau Cylchol Cymru.

“Gan nad yw ein gwahanol blastig yn cael ei ddidoli yn iawn mae llawer ohono yng Nghymru yn dal i gael ei losgi a’i ddinistrio, ei ddifa’n llwyr; er ein bod yn ei roi yn y biniau i’w ailgylchu.

“Mae canran fechan yn cael ei ailgylchu yma yng Nghymru, ac yn y tymor hir byddai’r mentrau hynny’n elwa petai gwahanu’r gwahanol bolymerau yn dod yn arfer cyffredin.”

Yn ôl y sefydliad, bydd cynllun Trysori Plastig Cymru yn codi ymwybyddiaeth am fanteision ailddefnyddio plastig.

“Yn y tymor hir, wrth i ni adeiladau mwy o gyfleusterau Trysori Plastig cymunedol bydd Cymru yn dod yn arweinydd Llythrennedd Polymer.

“Bydd Cymru, o gymryd y camau iawn i’r cyfeiriad hwn nawr, yn gallu troi’r ‘Broblem Blastig’ yn ddatrysiad, ac yn ddatrysiad a fydd yn dod â budd i ni gyd.”