Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022, roedd mwy na 70,000 o bobol wedi hawlio lloches yn y Deyrnas Gyfunol. Roedd y mwyafrif helaeth yn dod o wledydd sydd ddim yn defnyddio Saesneg fel iaith gyntaf.

Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol i fewnfudwyr newydd. Mae pobol sydd wedi cael profiadau trawmatig yn aml yn ysu am adeiladu bywydau newydd. Trwy ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ganddyn nhw, gallant ddod o hyd i waith ac addysg. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid iddyn nhw dreiddio’r systemau iechyd, nawdd cymdeithasol, tai ac addysg.

Iaith yw’r maes sy’n uniongyrchol yn gallu hybu integreiddio i fewnfudwyr. Mae fy ymchwil i wedi dangos bod athrawon iaith yn gallu effeithio’n bositif ar fywydau pobol yn y fath sefyllfaoedd.

Yn 2016, fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol adolygiad Casey ar gyflwr cydlyniant cymdeithasol ym Mhrydain. Dangosodd yr adroddiad fod datblygu rhuglder yn Saesneg yn hanfodol i integreiddio.

O ystyried y fath bwysigrwydd, mae ffoaduriaid a phobol sy’n ceisio am loches yn aml yn awyddus i gofrestru mewn dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (Esol). A gall dosbarthiadau o’r fath ddarparu mwy na hyfforddiant iaith yn unig. Maen nhw’n fan cymdeithasol sy’n rhoi strwythur i fywydau o ddydd i ddydd, gan gynnig cymorth ieithyddol a seicolegol.

Ond mae toriadau i gyllidebau addysg oedolion yn dilyn y newid llywodraeth yn 2010, a chyflwyniant cyni, yn golygu ei bod yn aml yn anodd cael gafael ar gymorth iaith Esol. Gall fod rhestrau aros hir a diffyg dosbarthiadau.

Hefyd, mae’r ffordd y caiff addysg oedolion ei hariannu yn y Deyrnas Gyfunol yn golygu bod yn rhaid i athrawon ddilyn system asesu i fesur cymhwysedd iaith. Mae’r cyfyngiad hwnnw’n aml yn golygu bod amser yn yr ystafell ddosbarth yn canolbwyntio’n fwy ar basio arholiadau nag ar ddatblygu rhuglder neu roi croeso cynnes ac ymdeimlad o berthyn.

Wrth ymdopi â gofynion adeiladu bywyd mewn gwlad newydd mewn iaith anghyfarwydd, mae llawer o ddysgwyr Esol hefyd yn delio â’r trawma sy’n gysylltiedig â dadleoli gorfodol. Mae hynny ar ben y straen sy’n gysylltiedig â llywio system loches sy’n aml yn elyniaethus a chymhleth.

Mae heriau o’r fath yn golygu y gall athrawon Esol fod yn bont hanfodol i’r gymdeithas newydd. A gall ystafell ddosbarth Esol fod yn fan ar gyfer cael gwybodaeth a chreu’r bondiau sydd eu hangen ar gyfer integreiddio llwyddiannus. Gyda hynny mewn golwg, mae sut mae dosbarthiadau Esol yn cael eu trefnu a’u rheoli yn hanfodol.

Fodd bynnag, mae darparu dosbarthiadau Esol, yn bennaf trwy golegau addysg bellach, yn fenter hynod o fiwrocrataidd. Yn aml, mae potensial dosbarthiadau Esol i hyrwyddo integreiddio yn cael ei golli.

Un o’r rhesymau am hyn yw bod y dosbarthiadau yn cael eu hariannu yn yr un modd â phynciau addysg oedolion eraill. Yn unol â hynny, rhaid i athrawon ddilyn cwricwlwm sy’n darparu tystiolaeth bod dysgwyr yn datblygu. O ganlyniad, mae athrawon yn gorfod paratoi myfyrwyr ar gyfer profion ac asesiadau cyson. Dydy hynny ddim yn gadael llawer o amser i ymafael â phryderon, anghenion a diddordebau bywyd go iawn eu dysgwyr.

Mae hefyd yn golygu bod y cyfleoedd i greu teimlad o berthyn yn cael eu disodli gan bod rhaid dysgu am faterion fel cyfuniadau berfol Saesneg. Felly, mae angen newidiadau i’r ffordd y mae Esol yn cael ei ariannu a’i drefnu, ac i’r ffordd y mae gweithwyr proffesiynol Esol yn cael eu haddysgu i ystyried yr ystafell ddosbarth.

Atebion

Byddai dileu rhai o’r gofynion i gynhyrchu tystiolaeth o ddysgu yn lleihau amser gweinyddu athrawon. Byddai hefyd yn lleddfu’r pwysau ar fyfyrwyr ac athrawon i baratoi’n gyson ar gyfer asesiadau. Byddai hyn yn sicrhau bod rhagor o amser i ganolbwyntio ar drafod materion sy’n berthnasol i’r dysgwyr.

Mae llawer o arbenigwyr iaith yn cefnogi’r syniad o edrych ar Esol o’r safbwynt hwn. Dyma ddealltwriaeth o’r ystafell ddosbarth sy’n atseinio gydag addysgwyr sydd wedi bod yn siarad o blaid addysgeg gyfranogol – hynny yw, mwy o gydweithio ymhlith myfyrwyr – i Esol ers troad y ganrif.

Mae’r math hwn o addysgu yn canolbwyntio ar fywydau’r dysgwyr. Mae enghreifftiau o faterion sy’n dominyddu trafodaethau o’r fath yn cynnwys yr her o ddod o hyd i waith, effeithiau trawma, sioc diwylliant newydd, gwahanu oddi wrth deulu, pryderon ariannol a dod o hyd i gartrefi.

Mae hyn yn golygu bod mwy o amser yn cael ei dreulio gyda dysgwyr yn defnyddio iaith i fynegi meddyliau, gobeithion a phryderon. Felly, mae llai o amser yn cael ei ddefnyddio gan yr athro yn dilyn maes llafur a osodir yn allanol.

Gweithdai iaith creadigol ar gyfer ceiswyr lloches.

Mae ail-ystyried addysg iaith ar gyfer ymfudwyr yn golygu meddwl am sut y gall dysgu o’r fath fod yn ffordd effeithiol o groesawu pobol. Gydag ychydig o ymdrech, gallai addysg iaith i ymfudwyr ganiatáu lle i ddatblygu prosiectau sy’n dod â phobol at ei gilydd. Gallai feithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth tra hefyd yn hybu datblygiad iaith.

Nid pwnc academaidd arall yn unig yw Esol. Dyma faes sy’n hybu integreiddio. Ond, ar hyn o bryd, mae cyfleoedd i ddarparu addysg iaith gyfannol yn cael eu colli oherwydd y system or-fiwrocrataidd sy’n canolbwyntio ar arholiadau.The Conversation

  • Mae Mike Chick yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ym Mhrifysgol De Cymru.