Mae rali a gorymdaith annibyniaeth gyntaf 2023 yn cael ei chynnal yn Abertawe heddiw (dydd Sadwrn, Mai 20).

Mae’r cyfan wedi dechrau gyda marchnad annibyniaeth, gyda stondinau ar lawnt Amgueddfa’r Glannau, lle bydd y rali’n cael ei chynnal yn ddiweddarach yn y dydd.

Ymhlith y siaradwyr yno fydd Liz Saville Roberts (Plaid Cymru), yr awdur Mike Parker, Anthony Slaughter (y Blaid Werdd), a’r ymgyrchydd Albanaidd Robin McAlpine, sylfaenydd Common Weal.

Mae’r farchnad ar agor rhwng 10yb a 4yp.


 

YesCymru Abertawe, y gangen leol, yn croesawu pobol i’r ddinas â danteithion – pice ar y maen, neu pice bach. Beth ydych chi’n eu galw nhw?

 

Mae Baneri ar Bontydd wedi dod yn un o ddigwyddiadau amlyca’r mudiad annibyniaeth, ond fe fyddan nhw i’w gweld ymhob man ar lwybr yr orymdaith ac yn y rali heddiw

 

Yng nghanol y môr o goch, cewch grysau-T o bob lliw ar y stondin yma – mae pleidiau gwleidyddol eraill ar gael, wrth gwrs…

 

… fel y Blaid Werdd, sy’n hybu ‘Cymru Rydd Werdd’ ac yn rhannu stondin gyda Chymdeithas yr Iaith

 

“Cofiwch Dryweryn” ac “I’r Gad” – dwy o’r negeseuon lu fydd i’w gweld yn ystod y dydd

 

Mae’r bwcedi’n barod… Ydych chi?

 

Mae’r llwyfan wedi’i osod ar lawnt Amgueddfa’r Glannau – yn fan hyn y bydd y rali ar ôl yr orymdaith

 

Llwybr yr orymdaith am yn ôl – bydd y Ddraig Goch a baner Owain Glyndŵr yn ymlwybro o Wind Street yn ôl i’r Amgueddfa’n ddiweddarach

 

Ymgyrch llawr gwlad yw YesCymru… ond mae’r faner yn hedfan yn uchel dros y ddinas, dafliad carreg o fan cychwyn yr orymdaith