Mae sylfaenydd grŵp galar ym Methesda yn dweud bod “angen bod yn ymwybodol bod pobol yn cerdded o gwmpas weithiau efo calonnau wedi torri”.

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, mae yna bobol sydd “angen ffrind, rhywun i wrando a bod yn garedig neu gael paned efo rhywun sydd wedi bod trwy’r un peth fel bod yna obaith o ddod drwyddo fo a dod allan yr ochr arall”.

Mae hi am gychwyn grŵp cymorth ar ddydd Llun cynta’r mis yn neuadd fach yr Orffwysfa rhwng 10yb a 12yp, i gefnogi pobol sydd wedi cael profedigaeth.

Yn ei barn hi, mae gan bawb ochr ysbrydol, boed hyn yn Gristnogaeth neu’n ffordd arall sy’n cynnig gobaith nad y diwedd yw marwolaeth.

Dywed fod yna lawer o deimladau y gall pobol eu teimlo wrth brofi galar, a bod digon o gymorth arbenigol ar gael, a help yn y gymuned.

“Mae cael grŵp i bobol drafod galar yn bwysig, oherwydd mae pobol angen rhywle saff i drafod eu teimladau nhw,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna broblem efo cael caniatâd i drafod galar ac iselder a phethau felly yn gyffredinol.

“Ar ôl i’r angladd fod drosodd, mae pobol yn… get on with it erbyn hynny.

“Does dim llawer o gyfle i drafod sut rydych yn teimlo a mynegi eich teimladau.

“Rwy’n meddwl bod cael rhywle saff efo pobol eraill sydd wedi bod trwy’r un peth, yr un profiad, mae’n help i bobol deimlo a chael cefnogaeth gan eraill.”

Mynd yn ysbrydol

Mewn amser o brofedigaeth, mae’n beth cyffredin fod pobol yn troi at grefydd neu’n mynd yn ysbrydol.

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, mae Cristnogaeth yn gyfle i weld marwolaeth fel dechrau newydd.

“Mae gan bawb ochr ysbrydol,” meddai.

“Naill ai maen nhw’n mynegi eu hunain mewn ffordd draddodiadol fel Cristnogaeth, neu mewn rhyw ffordd arall.

“Mae colli rywun yn achosi i chi chwilio mewn i bethau fwy, ac [mae] angen rhywbeth i roi gobaith i chdi.

“Mae Cristnogaeth a chrefyddau eraill yn gallu gwneud hyn.

“Mae Cristnogaeth yn cynnig gobaith bod yna rywbeth ar ôl, fod o ddim y diwedd, bod rhywbeth am ddigwydd wedyn, bod Iesu wedi dod yma i ddweud nad ydych ar eich pen eich hunain a bod rhywbeth ar ôl y bywyd yma ar y ddaear.

“Mae’n gallu rhoi gobaith a nerth i bobol pan maen nhw ynghanol adeg fwyaf tywyll eu bywydau, yn delio efo pob math o deimladau heblaw tristwch.

“Maen nhw’n poeni, maen nhw’n teimlo’n flin oherwydd amgylchiadau, mae pobol yn teimlo’n euog.

“Mae cael bod efo pobol sy’n mynd trwy’r un profiad yn help i rannu hynna, a dod ’nôl i ffydd unwaith eto.”

Sut i helpu

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, mae’n bwysig bod yno i bobol wrth iddyn nhw ddal i alaru ar ôl yr angladd.

Dywed fod pobol yn gallu mynd i boeni am bethau ymarferol yn ogystal ag emosiynol wrth alaru.

“Y peth pwysicaf pan mae rhywun rydych yn ei nabod wedi profi galar ydy bod yna iddyn nhw a gwrando,” meddai.

“Mae unigedd ar ôl galar yn un o’r pethau anoddaf i bobol ymdopi efo fo, yn enwedig ar ôl i’r angladd fod drosodd.

“Mae’r holl sylw rydych yn cael, cyn y farwolaeth a threfnu’r angladd.

“Unwaith mae hynny wedi gorffen, mae pobol yn dueddol o ddrifftio o ’na wedyn.

“Rydach chi ar eich pen eich hunain.

“Mae [yn bwysig] bod yn gwmni i bobol, cofio’r pethau bach, troi fyny efo pryd o fwyd neu fynd am baned, bod yna a gwrando mwy na dim byd.

“Weithiau, mae rhaid eistedd mewn distawrwydd efo rhywun oherwydd nad oes geiriau.

“Mae hynny’n rhoi cysur i rywun pan maen nhw yn nyfnder y teimladau yna, i fod efo rhywun yn bresennol yn cynnig cymorth a chariad.

“Rwy’n meddwl mai hwnna yw un o’r pethau pwysicaf.

“Mae cael rhwydwaith cryf o dy gwmpas yn gallu dy helpu i ddod trwy’r rhan fwyaf o brofiadau.

“Mae yna lawer o bethau sy’n digwydd yn sgil colli rhywun.

“Mae pobol yn gallu poeni am arian yn enwedig os mai’r partner sydd wedi marw oedd yn delio gyda phethau ymarferol.

“Mae poeni ar ôl iddyn nhw fynd, a pheidio gwybod lle i droi i gael ateb am bensiynau neu insiwrans neu bethau felly.

“Mae delio efo’r holl waith papur, clirio’r tŷ, mae’r rheiny i gyd yn straen ar rywun sydd hefyd yn galaru, ac yn gorfod delio efo gwaith papur a phethau ffurfiol.

“Mae help efo’r math yna o beth yn un peth.”

Iselder

Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, os nad yw pobol yn cael y cymorth cywir gall galar ddatblygu’n iselder.

“Mae yna risg o ddioddef o iselder, os ydych yn mynd yn rhy hir yn eich galar a ddim yn cael y gefnogaeth ar yr adeg iawn,” meddai.

“Mae’n gallu troi yn rhywbeth arall wedyn, yr iselder.

“Mae cael cyfle i siarad ac i gael cyferiad, cwnsela arbenigol mewn galar, mae hynny hefyd yn gallu bod yn help.

“Mae angen bod yn ymwybodol bod pobol yn cerdded o gwmpas weithiau efo calonnau wedi torri.

“[Ond] mae yna obaith dy fod yn gallu dod drwyddo fo a dod allan yr ochr arall.”

Croeso i unrhyw un

Hoffai’r Parchedig Sara Roberts estyn croeso cynnes i bawb, dim ots ers faint maen nhw’n galaru, a does dim rhaid rhannu profiadau na theimladau.

“Dydyn nhw ddim yn gorfod siarad,” meddai.

“Bydden nhw’n gallu eistedd yna’n ddistaw yn yfed paned os maen nhw eisiau.

“Does dim disgwyliad i siarad a rhannu teimladau nad ydych yn gyffyrddus efo nhw.

“Mae yna groeso i unrhyw un, hyd yn oed os ydyn nhw wedi colli rhywun blynyddoedd yn ôl.

“Mae croeso i ddod draw yn enwedig pan fo achlysur fel pen-blwydd yn codi, ac mae’r teimladau yma’n codi eto.

“Mae yna bobol o gwmpas sydd yna i helpu chi, ac mae croeso i unrhyw un.”