Mae llefarydd iechyd y blaid Lafur yn Lloegr wedi dweud wrth bleidleiswyr i beidio â’u barnu ar sail perfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Wrth siarad â Times Radio, dywedodd Andrew Gwynne wrth bobol yn Lloegr i beidio â beirniadu’r llywodraeth Lafur nesaf “yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru”.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y niferoedd oedd yn aros am driniaethau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi cynyddu o tua 731,000 i 734,700 yng Nghymru ym mis Mawrth, ar ôl gostwng am bum mis yn olynol.
Mae hynny gyfystyr â 22% o boblogaeth Cymru, er, mae’n bosib bod rhai cleifion yn disgwyl am fwy nag un driniaeth.
Roedd tua 31,700 o lwybrau cleifion ar agor ers dros ddwy flynedd, sydd 55% yn is na’r lefel uchaf.
Yn Lloegr, dan y Llywodraeth Geidwadol, mae 7.3m o bobol ar restrau aros, sydd bron i dair miliwn yn uwch na phan ddechreuodd y pandemig ac yn gyfystyr â thua 4.4% o boblogaeth y wlad.
‘Gwneud pethau’n wahanol’
“Mi fydd yna bobol yn edrych tuag at Gymru, ac yn meddwl ‘os ydych chi o ddifrif ynglŷn â sortio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yna byddech chi wedi sortio pethau yng Nghymru lle mae Llafur mewn grym, a lle mae’r rhestrau aros yn hirach’,” meddai cyflwynydd Times Radio wrth Andrew Gwynne, Aelod Seneddol Llafur dros Denton & Reddish ym Manceinion.
“Dw i’n weinidog cysgodol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, a phe bawn yn cael fy ethol byddwn yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr,” meddai Andrew Gwynne wrth ateb.
“Mae datganoli yn golygu ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol, ac roedd hynny’n wir dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, pan oedd yna Lywodraeth Lafur yng Nghymru ac roedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr dan Lywodraeth Lafur yn gwneud yn llawer gwell nag unrhyw un o’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol eraill yn y Deyrnas Unedig.
“Peidiwch â barnu’r Llywodraeth Llafur nesaf yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru.
“Barnwch y llywodraeth Lafur nesaf ar yr hyn rydyn ni’n llwyddo i’w wneud yma yn Lloegr, fel y gwnaethon ni rhwng 1997 a 2010 pan wnaethon ni etifeddu Gwasanaeth Iechyd Gwladol oedd ar ei gliniau ar ôl cyfnod hir o Lywodraeth Dorïaidd.
“Pan wnaethon ni adael y Llywodraeth, roedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ymhell o fod yn berffaith yn 2010 ond roedd gennym ni’r amseroedd aros isaf ar record, y rhestrau aros byrraf mewn hanes, ac roedd lefelau bodlondeb cleifion yn uwch nag erioed, felly honna yw record Llafur a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yma yn Lloegr.”
‘Caeth i’r gorffennol’
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu araith Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, ynghylch y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Wrth fanylu ar ei gynlluniau i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, fe wnaeth Keir Starmer addo lleihau’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â chlefyd y galon, canser a hunanladdiad.
“Roedd ei neges yn trafod ‘chwyldro’ felly pam nad yw e’n cynghori ei gydweithwyr Llafur ym Mae Caerdydd i drwsio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sydd gan amseroedd aros hirach na Lloegr ym mhob maes,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dywedodd ein bod ni angen Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n addas i’r dyfodol ac sy’n rhoi mwy o reolaeth i gleifion, ond mae Gwasanaeth Iechyd Cymru yn gaeth i’r gorffennol dan Lafur; dim presgripsiynau digidol, dim ap y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dal yn defnyddio peirannau ffacs – yn wahanol i Loegr.”