Y gyllideb yw’r her fwyaf sy’n wynebu Cyngor Sir Ceredigion, yn ôl cadeirydd newydd y Cyngor Sir.

Byddai’r Cynghorydd Maldwyn Lewis yn hoffi gweld buddsoddiad i gadw pobol ifanc yn yr ardal hefyd, boed drwy gyfleoedd gwaith neu dai fforddiadwy.

Cafodd Maldwyn Lewis, cynghorydd Gogledd Llandysul a Throed-yr-Aur, ei ethol yn gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2023-24, mewn Cyfarfod Cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Ifan Davies fel cadeirydd y Cyngor i ben.

Un o bentref Penrhiw-pâl, Rhydlewis yw Maldwyn Lewis yn wreiddiol, ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno, ac yn aelod o Gyngor Cymuned Troed-yr-Aur.

“O ran blaenoriaethau, buddion pobol Ceredigion ac asedau’r tir yw’r blaenoriaethau,” meddai’r cynghorydd Plaid Cymru wrth golwg360.

“Gwneud yn siŵr bod dyfodol y bobol sydd gyda ni o fewn y sir yn saff ac yn iach i edrych i’r dyfodol.”

Tai yn “bwnc llosg”

Dywed mai’r arian sy’n dod i mewn i’r sir o Gaerdydd a San Steffan yw un o’r prif heriau sy’n wynebu Cyngor Sir Ceredigion ers blynyddoedd.

“Rydym dal i’w weld yn her yn enwedig yn y byd addysg,” meddai’r Cynghorydd Maldwyn Lewis wrth drafod y gyllideb.

“Bydd hwnna yn sialens yn edrych ymlaen mewn 12, 18 mis.

“Dw i’n sicr mai hynny fydd un o’r heriau mwyaf sydd yn mynd i fod yn boen i ni.

“Mae’n amlwg ei bo hi’n sir braf i fyw ynddi.

“Mae trigolion ein sir, ieuenctid ein sir yn frwdfrydig iawn ac mae’n dipyn o sialens i ffeindio gwaith o fewn y sir sydd yn denu a chadw’r bobol ifanc.

“Bydden i’n hapus i weld ryw fuddsoddiad i helpu gyda’r her yna.

“Mae tai fforddiadwy yn bwnc llosg wrth gwrs.

“Mae’n anodd i bobol ifanc ffeindio a fforddio talu deposit ar forgais.

“Mae hwnna’n un o’r heriau sy’n wynebu llawer o’n hieuenctid ni.”

Daeth cadarnhad hefyd mai’r Cynghorydd Keith Evans, cynrychiolydd De Llandysul, fydd is-gadeirydd y Cyngor.

‘Llongyfarchiadau’

“Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Maldwyn Lewis ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor; y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd; a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Ifan Davies am ei waith diflino fel y Cadeirydd blaenorol,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.