Mae prosiect newydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia yng Nghymru, a dod â phlant â dyslecsia ynghyd i rannu a rhoi llwyfan i’w profiadau.
Heddiw (dydd Llun, Mai 22), mae fideo ‘Tu Draw’ wedi’i gyhoeddi, sef ffrwyth gweithdai gyda chriw o blant naw i unarddeg oed o ardal Bangor dan ofal Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, a staff arbenigol Canolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor.
Mae dyslecsia yn anhawster dysgu sy’n effeithio ar o leiaf 10% o’r boblogaeth, a gyda nifer helaeth o blant heb gael diagnosis, mae’n debygol fod y ffigwr yn sylweddol uwch.
Mae’r fideo yn cynnwys Casi Wyn a Nanw Jones, un o’r bobol ifanc fu’n cymryd rhan yn y prosiect, yn adrodd cerdd gan Casi Wyn yn ymateb i eiriau’r plant yn y gweithdai.
Ynghyd â hynny, mae’r fideo’n cynnwys animeiddiad gan y dylunydd Dan Parry Evans wedi ei blethu gyda darluniadau Shari Llewelyn, cynhyrchydd y prosiect.
Mae ffilm ddogfen fer yn darlunio’r gweithdai wedi’i chynhyrchu i gyd-fynd â’r fideo, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’r plant, rhieni a phartneriaid prosiect.
‘Bwlch enfawr’ yn y Gymraeg
Yn ôl Shari Llewelyn, nod y prosiect oedd dathlu dyslecsia mewn ffordd greadigol er mwyn codi ymwybyddiaeth.
“Ffeindio wnes i, ar ôl darganfod bod y ferch efo dyslecsia, bod yna fwlch mawr yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg, oherwydd does yna ddim prawf ar gael yn y Gymraeg na chwaith hyfforddiant i athrawon heb iddyn nhw orfod talu o’u pocedi eu hunain,” meddai wrth golwg360.
“Ychydig iawn o oriau o hyfforddiant mewn dyslecsia sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n mynd mewn i addysg.
“Ond dathliad ydy’r prosiect, i ddathlu’r gwahaniaethau, a dathlu dyslecsia, a rhoi llais i’r plant.
“Pan wyt ti’n rhiant ac yn ffeindio allan bod dy blentyn di efo dyslecsia, ti’n meddwl: ‘O, wel be ydy dyslecsia? A lle mae’r adnoddau?’
“Oherwydd bod yna ddim gwefan dwyieithog – mae’n anodd iawn deall a gwybod beth sy’n mynd ymlaen.”
Ond mae cost prawf am ddyslecsia hefyd yn broblem, meddai.
“Mae prawf yn costio tua £600 achos bod o mor ddwys, a ti’n gorfod cael yr arbenigwyr yma.
“Ond ti angen y prawf i brofi dy fod angen help yn dy arholiadau.
“Felly, does yna ddim llawer o gydraddoldeb.”
System addysg
Yn ôl Shari Llewelyn, mae’n teimlo fel bod y system addysg yn gallu gwneud i blant â dyslecsia deimlo fel eu bod nhw’n methu yn aml, ac yn cael eu cosbi hefyd.
“Mae llythrennedd yn rhywbeth mor fawr mewn addysg oherwydd y ffordd mae’r system addysg wedi cael ei gynllunio,” meddai.
“Mae rhywun yn teimlo fel bod nhw’n methu o hyd, ond mae’n rhaid i ni’i dderbyn o a’i ddathlu, achos mae yna gryfderau yn dod ohono fo hefyd.
“Mae’n rhaid i ni helpu plant i ddeall bod o’n iawn a bod dim rhaid bod yn dda ym mhob dim.
“Mae’n rhaid i ni ddathlu’r gwahaniaethau o fewn ystafell ddosbarth i gael gwared â stigma.
“Mae eisiau derbyn bod pethau ddim yn ddu a gwyn – dydy methu mewn llythrennedd neu unrhyw beth arall ddim yn golygu dy fod ddim yn glyfar, o gwbl.
“Mae o’n gamarweiniol oherwydd y diffyg dealltwriaeth am ddyslecsia.
“Mae o’n cael ei weld fel cosb achos ti’n cael dy dynnu allan o bynciau ti’n mwynhau fel cerdd a chelf – y pynciau mae’r ysgolion yn gweld sydd ddim yn ‘cyfri’ – er mwyn cael gwneud sesiynau darllen neu rywbeth.”
Datblygiadau’n digwydd
Er y bwlch mae Shari Llewelyn yn teimlo sy’n bodoli ar hyn o bryd, mae datblygiadau yn digwydd yn y maes.
Mae Marjorie Thomas o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gweithio ar ddatblygu prawf ar gyfer dyslecsia yn yr iaith Gymraeg, dan ofal Dr Rhiannon Packer.
“Hefyd, mae Canolfan Miles Prifysgol Bangor yn gweithio ar ddatblygu hyfforddiant i athrawon yn ddwyieithog erbyn Gwanwyn flwyddyn nesaf,” eglura Shari Llewelyn.
“Felly, mae yna waith anhygoel yn mynd ymlaen yng Nghymru.
“Mae yna lot o bethau allan yna’n Saesneg gan fod o’n anhawster sy’n effeithio poblogaeth y blaned, ond ychydig iawn sydd yn y Gymraeg.
“Gobeithio, fydd y prosiect yma’n dechrau ar fwy o brosiectau i ddod.
“Achos un peth oedd yn dda am y prosiect oedd bod plant yn cael ymgysylltu efo’i gilydd i drafod dyslecsia a beth roedd o’n ei olygu iddyn nhw – roedd hynna’n rhywbeth arbennig iawn.
“Roedd y plant wedi eu grymuso wrth gael siarad am ddyslecsia.
“Roedd o’n rhoi hyder i’r plant, ac maen nhw’n anhygoel ac wedi taflu eu hunain mewn i’r prosiect.”
Mae ‘Tu Draw’ a’r ffilm ddogfen ar gael i’w gwylio yma.