Mae angen i bobol adfer eu balchder yn yr iaith Gymraeg er mwyn hybu’r defnydd ohoni yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl cynghorydd blaenllaw.
Dywed y Cynghorydd Glynog Davies fod mwy na 90% o bobol yn ei dref gartref, Brynaman, a’r cyffiniau’n siarad Cymraeg yn 1971, o gymharu ag ychydig yn llai na 60% yn 2021.
“Roedd [y Gymraeg] yn iaith y stryd, yn iaith y capel, y dafarn, iard yr ysgol, y cae rygbi,” meddai’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros addysg a’r iaith Gymraeg.
“Dw i wedi gweld y newid yn digwydd – yn raddol, i ddechrau – ond nawr mae’n digwydd yn gyflym.”
Wrth siarad mewn cyfarfod cabinet, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod y dirywiad yn destun siom.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, 39.9% oedd canran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, i lawr o 43.9% ddegawd ynghynt. Dyma’r gwymp canran fwyaf yn unrhyw awdurdod lleol yn wlad.
Strategaeth iaith Gymraeg
Mae aelodau’r Cabinet bellach wedi cymeradwyo strategaeth iaith Gymraeg bum mlynedd newydd.
Ei phedwar prif nod yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a hybu balchder, defnydd a hyder yn yr iaith ymhlith trigolion, gwneud y Gymraeg yn norm yn y gweithle, a hybu cymunedau Cymraeg fel eu bod nhw’n ffynnu.
“Rhaid i ni adfer balchder yn yr iaith, gan greu cymunedau fydd unwaith eto’n falch o ddweud mai’r Gymraeg yw iaith y mwyafrif,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies.
Dywed y strategaeth newydd fod Sir Gaerfyrddin wedi profi mewnlifiad o bobol hŷn o’r tu allan i Gymru a bod fforddiadwyedd tai yn broblem i bobol ifanc yn y sir – gyda’r ffactorau hynny’n effeithio ar y defnydd o’r Gymraeg a’r ddau beth y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Bydd y strategaeth yn datblygu set o weithredoedd a ffordd o fesur eu heffaith.
Roedd yr adroddiad aeth gerbron y Cabinet yn cynnwys dadansoddiad o fesurau gafodd eu cyflwyno fel rhan o strategaeth bum mlynedd flaenorol y Cyngor, gyda chynnydd da mewn rhai meysydd a diffyg cynnydd mewn meysydd eraill.
‘Fforwm iaith yn ganolog i’r strategaeth’
Yn ôl Darren Price, arweinydd y Cyngor, mae partneriaeth â fforwm iaith Gymraeg yn ganolog i’r strategaeth newydd.
“Y neges glir gennym ni fel Cabinet yw ein bod ni’n awyddus iawn i gydweithio ag unrhyw un sydd am weld yr iaith yn ffynnu yn y sir,” meddai.
Fe wnaeth y Cabinet hefyd gymeradwyo polisi fydd yn gofyn bod sefydliadau sy’n gwneud cais am arian grant yn ystyried effaith dyfarnu grant ar ddefnydd trigolion o’r Gymraeg, gyda dyletswydd arbennig ar geisiadau gan sefydliadau mawr.
Bydd cyngor a chefnogaeth yn cael eu cynnig.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i nifer y siaradwyr Cymraeg godi i filiwn erbyn 2050.
Nid pob arolwg sy’n darlunio tranc y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, serch hynny.
Dywedodd adroddiad y Cabinet fod arolwg blynyddol o’r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif fod canran y siaradwyr Cymraeg wedi codi yn Sir Gaerfyrddin rhwng 2011 a 2021, o 47.2% i 52.5%.