Mae’r bobol fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn wynebu caledi difrifol wrth i gymorth costau byw tymor byr ddod i ben, medd adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 23), mae angen dull ataliol, mwy hirdymor.

Mae’r adroddiad yn nodi 14 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru o ran y sgandal mesuryddion rhagdalu, yn ogystal â newyn a dyled.

Canfyddiadau’r adroddiad

Yn ystod eu hymchwiliad, clywodd y pwyllgor dystiolaeth am effaith yr argyfwng ar y bobol fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Roedd y dystiolaeth yn dangos bod prisiau cynyddol yn cael effaith anghymesur ar rieni sengl, rhentwyr, gofalwyr, pobol ag anableddau a phobol o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Mae caledi economaidd hefyd yn effeithio ar aelwydydd sy’n uwch ar y raddfa incwm, gydag aelwydydd sy’n gweithio amser llawn yn gofyn am gymorth gan elusennau.

Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru nad oes gan gannoedd o filoedd o bobol ledled Cymru ddigon o arian i fyw arno ar hyn o bryd.

Cefnogodd Cyngor ar Bopeth Cymru bron i 40,000 o bobol gyda chyngor ar ddyled yn 2022, a chyrhaeddodd y niferoedd oedd yn gofyn am gyngor ar ddyledion ynni ei lefel uchaf erioed.

Mae bron i hanner eu cleientiaid (48%) bellach yn byw ar gyllideb negyddol, sy’n uwch na’r 36% ar ddechrau 2019.

Roedd gan 13% o bobol ôl-ddyledion ar o leiaf un bil cartref, ac roedd 28% wedi benthyca arian i dalu costau bob dydd, yn ôl astudiaeth gan Sefydliad Bevan.

Casglodd cyfres o grwpiau ffocws farn unigolion sydd â phrofiad o fyw heb ddigon o arian i dalu am fwyd a chostau sylfaenol eraill y cartref.

Daeth i’r amlwg hefyd fod heriau costau byw yn aml yn gysylltiedig â llesiant meddyliol a chorfforol y cyfranwyr.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • fonitro effaith prisiau cynyddol yn ofalus, a pharhau i ddarparu cymorth i aelwydydd i’w helpu gyda chostau byw
  • defnyddio dull cynaliadwy ar gyfer atal tlodi drwy fuddsoddi mewn sgiliau, ynni gwyrdd a diogelwch bwyd.
  • mynd i’r afael â thlodi bwyd drwy gefnogi gwasanaethau lleol sy’n darparu prydau iach ac yn addysgu sgiliau coginio mewn cymunedau.
  • rhoi eglurhad ar fyrder ynghylch cynlluniau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
  • nodi pa drafodaethau y mae wedi’u cael ag Ofgem i godi ei bryderon ynghylch ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu dan orfod
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu aelwydydd sy’n cael un budd-dal yng Nghymru i fod yn gymwys yn awtomatig ar gyfer budd-daliadau eraill mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw.

‘Gormod o aelwydydd yn wynebu caledi annerbyniol’

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar iechyd a chyfoeth ein cenedl ac mae gormod o aelwydydd yn wynebu caledi annerbyniol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth,” meddai Jenny Rathbone, cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.

“Mae prisiau bwyd, gwresogi a hanfodion sylfaenol eraill wedi codi’n aruthrol ac mae Llywodraethau wedi bod yn ceisio dal i fyny’n gyson o ran eu hymateb i swm yr heriau maen nhw’n eu hwynebu.

“Dim ond lleihau’r ergyd y mae’r ymyriadau wedi’i wneud.

“Mae’r pwerau pwysicaf ar gyfer polisïau economaidd, sef trethi a gwariant, a’r system fudd-daliadau, o dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain.

“Mae cwestiynau ynghylch pam fod prisiau’n codi’n gynt yn y Deyrnas Unedig nag mewn mannau eraill yn Ewrop, a pham fod cyflogau wedi gostwng mewn termau real ers dros ddegawd, yn faterion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi sylw iddynt.

“Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hwn, gafodd ei ddisgrifio fel achubiaeth i lawer.

“Mae pryderon ynghylch yr hyn sy’n digwydd nesaf wrth i’r cymorth sydd ar gael lleihau ac wrth i aelwydydd wynebu prisiau uwch yn barhaol.”

‘Plastr ar y briw’

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i’r argyfwng costau byw gyda phecynnau cymorth sylweddol.

Fodd bynnag, daeth y pwyllgor i’r casgliad fod perygl i’r ymateb fod yn “blastr ar y briw”, pan mai’r hyn sydd ei angen yw dull mwy cynaliadwy, hirdymor, sy’n fwy effeithiol o ran lleihau tlodi a chaledi.

Mae’n adleisio casgliad tebyg adroddiad y pwyllgor ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, oedd yn galw am greu cynllun costau byw.

Mae’r pwyllgor yn pwysleisio eto y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor sy’n blaenoriaethu camau a gwariant ataliol sydd â’r nod o fynd i’r afael â ffactorau sy’n arwain at dlodi, yn hytrach na chanolbwyntio ar y symptomau yn unig.

‘Gwneud popeth o fewn ein gallu’

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobol drwy’r argyfwng costau byw hwn wrth ddarparu cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn ystod 2022-23 a 2023-24, roedd y gefnogaeth hon werth mwy na £3.3bn.

“Roedd ein Cyllideb 2023-24 yn cynnwys £18.8m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, gan ddod â chyfanswm y gyllideb i £38.5m.

“Mae’r gronfa yn darparu taliadau arian parod brys i bobol sy’n wynebu pwysau ariannol difrifol.

“Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus.”