Bydd £10m yn mynd tuag at raglen sy’n “helpu i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol gref a deinamig” yng Nghymru.
Yn ei chamau nesaf, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar strategaethau carbon isel, gwyddorau bwyd, peirianneg uwch a chyfrifiadura uwch, meddai Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r cyllid.
Cafodd Sêr Cymru ei sefydlu i sicrhau bod gwyddoniaeth yn chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru.
Mae disgwyl i’r arian newydd ariannu ysgoloriaethau PhD a Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol.
Dros yr unarddeg mlynedd ddiwethaf, mae’r rhaglen wedi addasu i gyd-fynd â’r newidiadau ym maes ymchwil ac wedi ymateb i faterion economaidd ac iechyd, fel gadael yr Undeb Ewropeaidd a Covid.
Hyd yn hyn, mae Sêr Cymru wedi cynhyrchu dros £252m mewn incwm ymchwil drwy fuddsoddiad o £110m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd lansiad cam pedwar y rhaglen yn cefnogi strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, sy’n sôn am y nod i Gymru fod yn flaenllaw wrth arloesi.
‘Cadw a denu talent’
Wrth gyhoeddi’r pedwerydd cam, dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, fod gan wyddoniaeth “gyfraniad enfawr a hanfodol” i’w wneud wrth ymateb i’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r wlad.
“Dw i’n falch iawn o’r cynnydd y mae Sêr Cymru eisoes wedi’i wneud, yn enwedig gyda rhaglen y Cymoedd Technoleg,” meddai.
“Diolch i Sêr Cymru, rydym wedi dod ag ymchwil ac ymchwilwyr gwirioneddol ragorol i Gymru.
“I’r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o barhau i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol gref a deinamig yma yng Nghymru.
“Bydd cadw, uwchsgilio a denu talent yn allweddol i gyflawni ein hamcanion fel y nodir yn ein Strategaeth Arloesi.
“Mae’r buddsoddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn dangos bod Cymru’n wlad flaengar, hyderus, sy’n croesawu busnes a chydweithio rhyngwladol.”
‘Rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth’
Ychwanegodd yr Athro Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, fod gwyddoniaeth yn “ganolog” i lwyddiant economaidd y wlad.
“Bydd ffocws ar ragoriaeth mewn gwyddoniaeth yn helpu i ysgogi cynnydd mewn ysbryd cystadleuol yn y sector ymchwil,” meddai.
“Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi’r gwaith o gryfhau gallu a chapasiti ymchwil yng Nghymru ac yn cynyddu ein trosoledd wrth gael gafael ar gyllid o ffynonellau’r Deyrnas Unedig a thramor.
“Nid yn unig bydd y buddsoddiad o £10 miliwn yng ngham nesaf Sêr Cymru yn helpu i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector ymchwil addysg uwch yng Nghymru, ond bydd hefyd yn cefnogi ymyriadau eraill – yn enwedig y rhai i ysbrydoli a meithrin gwyddonwyr y dyfodol y bydd cymaint yn dibynnu arnynt.”