Mae “problem o ran cladin” adeilad fflatiau mawreddog wedi cael ei adnabod, ac mae argymhelliad gan benaethiaid y gwasanaeth tân y dylid ei symud oddi yno.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi cadarnhau eu bod nhw’n cydweithio â thrigolion a’r awdurdodau yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon.
“Mae problem o ran cladin yn Noc Fictoria, Caernarfon wedi cael ei chodi, ac mae argymhelliad i symud,” meddai Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin yng Ngwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd.
“Rydym yn parhau i gydweithio â’r grŵp trigolion a’r awdurdodau i ddatrys y materion sy’n weddill er mwyn cadw pobol yn ddiogel.”
Gallai’r gwaith i’w ddisodli gostio cannoedd o filoedd o bunnoedd, a gallai’r mater effeithio ar ddwsinau o drigolion.
Cadarnhaodd y gwasanaeth tân fod y problemau cladin gafodd eu codi’n ymwneud ag “ardal breswyl” y datblygiad.
Cladin a thân Tŵr Grenfell
Cafodd graddfa’r “argyfwng cladin”, sydd wedi effeithio ar adeiladau fflatiau uchel a chanolig ledled y Deyrnas Unedig, ei darganfod yn sgil trychineb Tŵr Grenfell.
Bu farw 72 o bobol ar ôl i dân ledu trwy floc uchel o fflatiau yn Llundain ar Fehefin 14, 2017.
Chwaraeodd cladin llosgadwy ran yn y modd y bu i’r tân ledu, a fydd adroddiad yr ymchwiliad i’r tân ddim yn cael ei gyhoeddi tan 2024.
Mae’r ffaith fod pryderon wedi’u codi ynghylch diogelwch y deunydd gafodd ei ddefnyddio i gladio’r fflatiau ar lannau afon Menai wedi cael ei ddatgelu ar drothwy chweched pen-blwydd y trychineb.
Cafodd datblygiad preswyl, hamdden a masnachol Doc Fictoria ei gwblhau yng Nghaernarfon yn 2008 gan y contractwyr Watkin Jones.
“Mae Watkin Jones yn gweithio i fynd i’r afael â chladin ar draws ein portffolio gwaddol ac yn cydweithio â chleientiaid a thrigolion i sicrhau bod yr holl adeiladau rydyn ni’n gyfrifol amdanyn nhw’n ddiogel.
“Yn achos Doc Fictoria, Caernarfon, rydyn ni’n cydweithio â chwmni rheoli perchennog yr adeilad, Residential Management Group Ltd, i ddod o hyd i unrhyw gynllun adferol sy’n ofynnol a’i weithredu.”
Yn gynharach eleni, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â datblygwyr ynghylch cynllun newydd i fynd i’r afael â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel a chanolig ar ôl Grenfell.
Mae benthyciadau di-log yn cael eu cynnig i ddatblygwyr yng Nghymru sy’n cofrestru ar gyfer cytundeb i addasu adeiladau sydd wedi’u heffeithio.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dod i gytundeb â datblygwyr ynghylch diogelwch tân, ac yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag ‘adeiladau amddifad’ – adeiladau dan berchnogaeth breifat lle nad yw’r datblygwr yn hysbys neu wedi rhoi’r gorau i fasnachu.