Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio bod angen prysuro er mwyn gwireddu addewidion y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
Daw’r rhybudd gan y cadeirydd Robat Idris gyda deunaw mis yn weddill o’r Cytundeb Cydweithio presennol.
Tra ei fod yn dweud bod “nifer o bethau canmoladwy yn y Cytundeb Cydweithio fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r Gymraeg ac i’n cymunedau”, mae’n mynnu bod “eu gweithredu yn greiddiol i hynny”.
“Mae Papur Gwyn ar fil Addysg Gymraeg wedi ei gyhoeddi, er yn hwyrach na’r disgwyl, a byddwn ni’n pwyso i’w gryfhau er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, nid dim ond y 50% mae’r Llywodraeth yn anelu ato ar hyn o bryd,” meddai.
“Gydag ond deunaw mis i fynd mae’n bryd symud o ddifri ar Ddeddf Eiddo, dyma’r cyfle i ddiogelu’n cymunedau.
“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos yn gwbl glir bod angen Deddf Eiddo fydd yn rheoleiddio’r farchnad fel bod prisiau tai o fewn cyrraedd pobol ar gyflog lleol a rhoi tai yn nwylo cymunedau.
“Ac mae’r sefyllfa tai ar draws Cymru yn dangos hynny’n amlwg.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran yr agenda polisi uchelgeisiol sydd wedi’i nodi yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n gweithredu ar yr holl gyd-ymrwymiadau, gan gynnwys cefnogi’r Gymraeg i ffynnu a chyflwyno mesurau newydd i helpu pobol i fyw yn eu cymunedau lleol.
“Rhaglen tair blynedd yw’r Cytundeb, ac fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio yn y meysydd lle mae gyda ni dir cyffredin.”