Mae cynnydd yn nifer y bobol sy’n ddi-waith yng Nghymru’n “adlewyrchu’n wael ar agwedd laissez-faire llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig,” yn ôl arweinydd dros dro Plaid Cymru.

Cymru welodd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra o blith gwledydd y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, meddai data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cymru sydd â’r ail raddfa uchaf o ran anweithgarwch economaidd hefyd.

Wrth siarad cyn ei sesiwn gyntaf yn arweinydd dros dro’r Blaid yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mai 23), mae Llŷr Gruffydd wedi amlinellu cynllun newydd, Pedwar Cam Ymlaen, i gryfhau economi Cymru a helpu mwy o bobol i weithio.

Byddai adolygiad annibynnol o raglen ‘Cymru’n Gweithio’ Llywodraeth Cymru, datganoli pwerau economaidd, ac ymuno â’r farchnad sengl yn cyfrannu tuag at y nod, meddai.

Ynghyd â hynny, mae’n awgrymu creu asiantaeth ddatblygu economaidd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

‘Syfrdanol’

Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae’r ystadegau diweddaraf yn “syfrdanol” ac yn “ergyd ddwbl i Gymru”.

“Dydy un ym mhob pedwar person yng Nghymru ddim yn gweithio, gyda 159,000 yn dioddef o salwch hirdymor,” meddai.

“Mae hyn yn adlewyrchu’n wael ar agwedd laissez-faire llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, sydd naill ai’n gwneud ychydig iawn neu’n cymryd rhy hir i osod mesurau fyddai’n helpu gweithwyr a’r rhai sy’n chwilio am waith.

“All Cymru ddim adnabod ei photensial economaidd lawn nes bod ganddi’r arfau angenrheidiol i’n caniatáu ni i addasu polisïau i ddatrys yr heriau unigryw yma, fel cyflogau isel a phoblogaeth sy’n heneiddio.

“Byddai’r pedwar cynnig yng nghynllun Pedwar Cam Ymlaen yn helpu i roi economi Cymru ar y trywydd cywir a rhoi uchelgais yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i greu swyddi a thwf.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i greu Cymru fwy cyfartal a llewyrchus,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ein cenhadaeth economaidd yn canolbwyntio ar greu swyddi gwell mewn busnesau cryfach a lleihau’r rhaniad sgiliau i hybu twf a mynd i’r afael â thlodi.

“Rydym yn bwrw ymlaen â mesurau i roi cyfle i bawb gyrraedd eu potensial mewn economi lle mae mwy o bobol yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru.

“Mae ein Cynllun Sgiliau a Chyflogadwyedd wedi ymrwymo i leihau anweithgarwch economaidd gan ganolbwyntio ar y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.”

Cymru â’r gyfradd isaf o bobol mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig

Rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni, cynyddodd cyfradd diweithdra Cymru i 4.6%