Bydd Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Dde Ddwyrain Cymru yn sefyll yn y ras i ddod yn Faer nesaf Llundain.

Wrth gyhoeddi ei bod hi wedi cyflwyno’i chais, dywedodd Natasha Asghar ei bod hi’n “amser am newid” yn Llundain.

Cafodd Natasha Asghar ei hethol i’r Senedd yn 2021, ac ers hynny mae hi’n llefarydd trafnidiaeth a thechnoleg y Ceidwadwyr Cymreig.

Mewn fideo ar Twitter, dywedodd hefyd ei bod hi wedi byw yn Llundain am yr un faint o flynyddoedd ag y mae hi wedi bod yn byw yng Nghymru.

“Dw i’n siŵr eich bod chi i gyd yn meddwl: ‘Pam Natasha? Pam?’” meddai.

“Fodd bynnag, roeddwn i eisiau i chi wybod fy mod i wedi byw yn Llundain yr un faint o flynyddoedd â dw i wedi byw yng Nghymru – dw i wedi byw yn Llundain drwy’r da, y drwg a’r hyll, a thri gwahanol faer.

“Dw i wir yn meddwl ei bod hi’n amser am newid.

“Fe wnaeth gymaint o bobol dros y ffin ddweud: ‘Natasha, mae’n rhaid i ti wneud hyn, ti yw’r chwa o awyr iach mae Llundeinwyr ei hangen’. A dyna’n union dw i’n bwriadu ei wneud.

“Dw i’n teimlo bod fy swydd bresennol fel Gweinidog Cysgodol Trafnidiaeth a Thechnoleg yn golygu fy mod i’n barod iawn i ddelio â’r tasgau, dw i’n llwyr ddeall y problemau sy’n wynebu busnesau ac unigolion, y sector lletygarwch, y rhai ohonoch sydd eisiau prynu tŷ am y tro cyntaf.

“Pe bawn yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod pawb yn Llundain yn teimlo’n fwy diogel, yn hapusach, ac yn gallu llwyddo a chyrraedd yr uchelgeisiau rydyn ni gyd eisiau a’u hangen drwy gydol ein bywydau.”

‘Llundain yn flaenoriaeth’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywed llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod hyn yn “brawf pellach” fod y Ceidwadwyr yn “gweld Llundain fel blaenoriaeth fwy na Chymru”.

“Bydd pobol De Ddwyrain Cymru’n methu deall y cam hwn,” meddai.

“Mae cynrychioli cymuned yn swydd lawn amser sydd angen ymrwymiad, bydd rhaid i Natasha Ashgar feddwl o ddifrif ynglŷn â lle mae ei hymrwymiad, Cymru neu Lundain?”