Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 heddiw (dydd Sul, Mai 21).
Ymysg yr awduron ar y rhestr fer Gymraeg mae Manon Steffan Ros, Sioned Erin Hughes, Llŷr Titus, Gwenllian Ellis a Peredur Glyn.
Cafodd enwau’r deuddeg llyfr Cymraeg fydd yn brwydro am y wobr eleni eu cyhoeddi ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru.
Mae pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobol Ifanc – a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar Orffennaf 13.
Beirniad y Gwobrau Cymraeg yw Megan Angharad Hunter, Ceri Wyn Jones, Sioned Wiliam a Savanna Jones, a nhw fydd yn penderfynu ar enillwyr y pedwar categori a’r brif wobr.
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn rhannu cyfanswm o £14,000 mewn gwobrau ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Yn ogystal, bydd pob enillydd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn, sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones.
Gwobrau Cymraeg
Gwobr Farddoniaeth
Y Lôn Hir Iawn – Osian Wyn Owen
Tosturi – Menna Elfyn
Anwyddoldeb– Elinor Wyn Reynolds
Gwobr Ffuglen
Pridd – Llŷr Titus
Pumed Gainc y Mabinogi – Peredur Glyn
Rhyngom – Sioned Erin Hughes
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cerdded y Caeau – Rhian Parry
Cylchu Cymru – Gareth Evans-Jones
Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens– Gwenllian Ellis
Gwobr Plant a Phobol Ifanc
Byd Bach Dy Hun – Sioned Medi Evans
Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor – Huw a Luned Aaron
Powell – Manon Steffan Ros
‘Uchafbwyntiau’r calendar’
“Wedi misoedd o ddarllen a phwyso a mesur, mae mor braf medru rhannu’r rhestr hon o lyfrau â’r cyhoedd, rhestr sy’n dangos unwaith eto mor fyw yw’r Gymraeg fel iaith greadigol ac mor barod yw hi, yn ei hamrywiol ffurfiau, i fentro i fannau newydd, yn ogystal ag ail-ymweld â’r mannau oesol,” meddai Ceri Wyn Jones ar ran y panel beirniadu.
Dywed Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, mai “pleser o’r mwyaf” yw cael cyhoeddi’r Rhestr Fer a “dathlu amrywiaeth a chyfoeth ein llên”, a bod Llyfr y Flwyddyn yn “un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol yng Nghymru”.
“Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy’n cipio’r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi – mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau’r ysgol – trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth,” meddai.
Barn y Bobol
Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud hefyd, gan fod yr holl deitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer yn cystadlu am Wobr Barn y Bobol, mewn cydweithrediad â golwg360.
Gallwch bleidleisio, a darllen mwy am eich hoff gyfrol, isod:
Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023
Gwobrau Saesneg
Emily Burnett, Emma Smith-Barton, Kristian Evans a Mike Parker yw beirniaid y gystadleuaeth Saesneg eleni.
Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales heddiw (dydd Sul, Mai 21) hefyd.
Mae modd pleidleisio am eich ffefryn ar wefan Wales Arts Review.
Gwobrau Saesneg
Y Wobr Farddoniaeth
As If To Sing – Paul Henry
The language of bees – Rae Howells
A Marginal Sea – Zoë Skoulding
Gwobr Ffeithiol Greadigol
And… a memoir of my mother – Isabel Adonis
The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives – Jude Rogers
Original Sins – Matt Rowland-Hill
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
This Is Not Who We Are – Sophie Buchaillard
Fannie – Rebecca F. John
Drift – Caryl Lewis
Gwobr Plant a Phobol Ifanc
The Mab – Various Authors
The Last Firefox – Lee Newbery
When the War Came Home – Lesley Parr