Yn blentyn, roeddwn wrth fy modd yn tynnu llun. Ond fel sawl peth, disgynnais ar ei hôl hi wrth i bawb o’m cwmpas ddatblygu, a finnau heb ddatblygu yn yr un modd.
Roedd dal unrhyw beth yn fy nwylo bach bregus yn fater lletchwith – gan gynnwys ysgrifbin; roedd sgwennu’n achosi i fy mys canol chwyddo mewn lwmp poenus.
Ni ddatblygais yr un math o drachywiredd â fy nghyd-ddisgyblion, ac es i deimlo’n rhwystredig ac yn ddigalon; fel sawl peth arall roeddwn i yn ei fwynhau, felly, rhoddais y gorau iddo mewn dryswch a chywilydd.
Yna, ryw bedair blynedd yn ôl, mewn ymdrech i greu gwaith gweledol i gyd-fynd â fy ngherddi, mentrais eto – yn amheus – i geisio tynnu llun; ac erbyn hyn, rwy’n cael mwy o lwyddiant hefo fy ngwaith celf nag hefo fy marddoni!
ΓΝΩΘΙ ΣΑΤΟΝ (adnabod eich hun)
Dechreuais gyda delweddau i ddarlunio cerddi ac erthyglau. Ond wrth i fy niddordeb mewn cyfryngau celf dyfu, dechreuais archwilio fy syniadau hunanseicdreiddiol drwy gelf yn gyntaf, gan gynnwys y gorchymyn Delphic ei hun, ‘Know thyself’:
Gweithiais ar y prosiect ‘Gaeaf llawn lles’ hefo plant a Llyfrgell Wrecsam, a gofynnodd fy nghydweithiwr a fyddwn yn medru darlunio’r llyfr cysylltiedig; Oedais. A oedd hyn o fewn fy ngallu, tybed? Oeddwn i yn ddarlunydd?
Dwi’n falch o ddweud y gwnes i gytuno, ac roeddwn wrth fy modd yn llwyr hefo’r hyn y llwyddais i’w greu.
Tywod amser y clyw
Dros y cyfnod clo, daeth pob math o gyfleon i gymryd rhan mewn preswylfeydd hyfryd, gan gynnwys un am anabledd a byddardod.
Un peth ddeilliodd o’r prosiect hwn oedd fy hunanbortread ‘Tywod amser y clyw’, sef llun sy’n fy nangos i hefo fy mhen wedi ei blygu ’nôl, gan ddangos fy ngwallt a chroen dad-bigmentiedig, a fy nghochlea wedi ei ddisodli gan awr-wydr, gyda’r tywod yn rhedeg allan.
Cyhoeddais hwn yn fy ngholofn yng nghylchgrawn Barddas, a synnais wrth i’r neges am fy nghlyw – yr oeddwn wedi bod yn ceisio ei chyfleu ers peth amser – gael ei deall yn llawer iawn gwell o’r llun nag o fy ngherdd ‘Y ras i gynganeddu’, a’r erthyglau niferus roeddwn wedi’u sgwennu ar y mater.
Yna, cafodd y ddelwedd ei dewis fel rhan o arddangosfa gelf ‘Aildanio’ Disability Arts Cymru, ac mi aeth hi ar daith o amgylch orielau celf Cymru; mae hi nawr wedi cyrraedd Tŷ Pawb yn Wrecsam… ac rwy’ dal wrthi’n prosesu hyn!
‘Artist y mis’ Mai / Mehefin 2023
Ac fel tasa hynny ddim yn ddigon, mae gen i’r anrhydedd (wrth i mi sgwennu’r erthygl hon) o fod yn ‘Artist y mis’ i Disability Arts Cymru, gyda fy ngwaith celf yn cael ei arddangos ar y wefan.
Mae hyn yn peri i rywun feddwl, ‘Ydw i’n artist bellach, felly? Ydy fy ngwaith yn deilwng o gael ei ystyried yn gelf? Beth yw’r criteria?’ Mae’n debyg fod fy niffyg gradd mewn celf yn cyfri yn fy erbyn rywfaint. Ond mae ‘ansawdd’ a ‘medrau’, be’ debyg, yn ffactorau i’w hystyried hefyd.
Dwi dal yn cael trafferth hefo fy nwylo i ryw raddau – sgiliau echddygol manwl gwael. Tydi hyn ddim yn amlwg o ddydd i ddydd, ond daw i’r amlwg wrth geisio gwneud gwaith celf manwl. Dwi, felly, yn ffafrio pensiliau graffit a lliw fel cyfryngau yn hytrach na phaent a ballu.
A beth am y ffaith taw dim ond ers cyfnod byr dwi wedi bod wrthi? Onid ‘dyfal donc’, ymrwymiad, dyfalbarhad yw’r ffyrdd o hawlio’ch lle fel artist?
Wel, nid fy mod yn diystyru hyn yn gyfangwbl, ond fel person sy’n byw hefo sawl anabledd, sydd heb cael y gydnabyddiaeth (trwy ddiagnosis) na felly’r gefnogaeth yr oeddwn ei hangen ac yn ei haeddu, rwy’n teimlo taw dyma fy nghyfnod i arbrofi a chyfrannu, a dylai fod gofod a chefnogaeth i mi gael gwneud hynny.
Mae peidio cymryd y pethau hyn dan ystyriaeth yn ablaeth, os nad yn anablaeth. A dyma ddŵad at y penbleth ynglŷn a’r modelau o anabledd a sut i ‘adnabod fy hun’ (a chyflwyno fy hun) fel artist.
Heb os, mi fydd fy nghelf yn wahanol i waith rhywun sydd heb yr anableddau sydd gen i. Yn hytrach na gweld hyn fel rhywbeth y dylwn ei esbonio neu ymddiheuro amdano, gwelaf hyn fel rhywbeth i’w ddathlu.
Crwban yn hytrach na ysgyfarnog
Nid wyf eisiau bod yn ‘fersiwn wael’ o fy nghyfoedion, ac ni fedraf ‘ddal fyny’, dim ots pa mor galed dwi’n ‘gweithio’. Yn yr un modd â chrwban Aesop, mae’n rhaid meddwl am strategaeth amgen.
Ac am y rheswm yma, felly, mae’n llawer iawn gwell gennyf adnabod fy hun fel ‘artist anabl’, hawlio’r hunaniaeth hon, a bod yn browd o fy hun a’r gwaddol unigryw sydd gen i i’w chynnig; cystadlu ar gae chwarae gwastad lle mae gen i chwarae teg – dyna’r cwbl dwi mo’yn yn y bôn!