Mae penderfyniad cabinet Cyngor Gwynedd i gau ysgol Felinwnda yn “siomedig”, yn ôl un rhiant.
Fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio dros gau ysgol leiaf y sir yn Llanwnda ger Caernarfon, ysgol sydd ond ag wyth o ddisgyblion, heddiw (Gorffennaf 11).
Mae cyhoeddiad rhybudd statudol swyddogol wedi cael ei roi wedi i’r cabinet benderfynu’n unfrydol i barhau gyda’r cynllun i gau Ysgol Felinwnda.
Gan fod yr ysgol efo llai na deg o ddisgyblion, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi nad oedd angen i’r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn cynnal y broses ffurfiol i’w chau.
Roedd disgwyl i’r penderfyniad gael ei wneud ym mis Mawrth, ond cafodd ei ohirio er mwyn cael cyfle i drafod gyda’r gymuned.
Bydd gan wrthwynebwyr fis i gofnodi eu gwrthwynebiad ffurfiol i benderfyniad Cyngor Gwynedd, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol yn yr hydref.
Trafod â’r gymuned
Gan fod cynghorwyr Gwynedd wedi gohirio penderfyniad ar ddyfodol ysgol leiaf y sir er mwyn cael cyfle i drafod â’r gymuned, ac mae Sioned Griffith-Jones, sydd â dau o blant yn yr ysgol, yn dweud bod cael y trafodaethau wedi gwneud iddi “deimlo’n well.”
“Dw i yn teimlo’n drist oherwydd mae’r ysgol wedi rhoi gymaint i’r plant gen i,” meddai.
“Dw i’n teimlo yn well bod ni wedi gallu cael trafodaethau efo’r cyngor ac efo’r cynghorydd cyn i hyn gael ei gymeradwyo.
“Mae’n mynd i fod yn anodd ar y rhieni, mae’n mynd i fod yn anodd ar y plant.
“Mae’n mynd i fod yn anodd ar athrawon a staff yr ysgol i gyd – mae hynny’n cynnwys staff gegin, staff glanhau a chymhorthyddion.
“Mae’n mynd i fod yn anodd i bawb.”
‘Deall y penderfyniad’
Er nad hwn oedd y penderfyniad oedd Sioned Griffith-Jones a rhieni eraill eisiau mae hi’n deall y penderfyniad oherwydd niferoedd disgyblion.
“Dim dyna oedd y penderfyniad oedden ni eisiau, ond hefyd dydw i ddim yn wirion yn y ffaith nad ydy o’n gynaliadwy i gadw ysgol ar agor mewn dwy flynedd pan mai dim ond rhywbeth fel tri neu bedwar disgybl sydd yna,” meddai.
“Dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr chwaith.
“Mae o’n siomedig ac mae o’n drist.”
Bwriad Cyngor Gwynedd yw cau’r ysgol ar gyrion Caernarfon yn swyddogol ar Ragfyr 31 2023, a byddai’r disgyblion presennol yn cael dewis symud i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog.
O gymharu â 2012, pan oedd 31 disgybl, mae’r niferoedd eisoes wedi disgyn yn sylweddol. Y disgwyl yw y byddan nhw’n lleihau ymhellach i bump ym mis Medi 2024, ac yna i dri yn 2025.
Mae cost y pen fesul disgybl, meddai Cyngor Gwynedd, yn £14,643 o gymharu â’r cyfartaledd dros y sir o £4,509.
“Ysgolion cefn gwlad ddim yn cael blaenoriaeth”
Yn ôl Sioned Griffith-Jones, dydy ysgolion gwledig ddim yn cael blaenoriaeth gan y cyngor na chwaith gan rieni o fewn y gymuned sydd weithiau’n teithio’n bellach i fynd a’u plant i’r ysgol.
“Dydy’r gymdeithas ddim yr un fath a oedd ers talwm ble ti’n gyrru dy blant i’r ysgol yn y pentref, dw i ddim yn meddwl,” meddai.
“Mae wedi mynd yn gymdeithas lle ti’n gyrru plant i’r ysgol sydd ar y ffordd i gwaith, neu mae ewythr a modryb, neu nain a thaid yn byw yna a ti’n gallu nôl y plant o’r ysgol felly.
“Mae ysgolion cefn gwlad yn dioddef oherwydd hynna.
“I fi, mae wedi bod yn gwbl bwysig bod [y] plant yn mynd i ysgol fach, ysgol cefn gwlad, ysgol lle mae o fel teulu.”