Mae disgwyl i brosiectau sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru greu arbedion gwerth mwy na £320m, yn ôl canfyddiadau newydd.
Mae’r Gwasanaeth Ynni yn cydweithio â’r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i leihau’r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac sy’n berchen i’r gymuned leol, a lleihau allyriadau carbon.
Rhyddhaodd y Gwasanaeth Ynni ei adroddiad blynyddol heddiw (Gorffennaf 12) a oedd yn cofnodi canlyniadau effaith pob prosiect ers ei lansio yn 2018.
Hyd yn hyn, mae’r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi bron i 300 o brosiectau sy’n amrywio o ynni adnewyddadwy newydd wedi’u gosod, i annog gwaith effeithlonrwydd ynni a newid i fflyd cerbydau dim allyriadau.
Mae’r prosiectau ynni adnewyddadwy yn unig wedi creu 40.5MW o gapasiti newydd, sy’n cyfateb i ddigon o drydan i bweru 16,000 o gartrefi.
Ochr yn ochr â’r adroddiad blynyddol, mae’r Gwasanaeth Ynni wedi cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer ei weithgareddau dros y pedair blynedd nesaf.
Mae hyn yn cynnwys y Grant Gwres Carbon Isel gwerth £20m, a ddyluniwyd i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu prosiectau gwres carbon isel a chyflymu’r symudiad i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwres.
‘Gosod sylfeini cadarn’
Dywedodd Poppy Potter, Pennaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae prosiectau’r Gwasanaeth Ynni eleni wir wedi dangos buddion ehangach cymryd camau gweithredu ar newid hinsawdd nawr.
“Gan fod prisiau ynni mor uchel, mae gostwng y defnydd o ynni yn ein hadeiladau cyhoeddus a chynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol yn fwy pwysig nag erioed.
“Mae newid o geir petrol a diesel i rai dim allyriadau yn helpu i wneud yr aer yn lanach hefyd.
“Mae ein hastudiaethau achos yn dangos sut mae buddion economaidd ac iechyd yn mynd law yn llaw â’r newid i sero net.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae rhaglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o’n huchelgais i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050.
“Ers 2018 mae mentrau cymunedol a’r sector cyhoeddus wedi cyflawni effeithiau sy’n lleihau’r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i ardaloedd lleol a lleihau allyriadau carbon.
“Mae’r cymorth gan y Gwasanaeth Ynni wedi sicrhau mwy o fuddsoddiad ac wedi cyflawni arbedion er mwyn sbarduno rhagor o weithredu.
“Mae’r gwaith sydd wedi’i gyflawni hyd yma wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer creu dull i Gymru, lle y bydd pawb yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ar fyrder yn wyneb yr argyfwng hinsawdd hwn.”