Mae nifer o gynghorwyr tref Aberystwyth wedi arwyddo llythyr trawsbleidiol yn ymateb i ddarn golygyddol diweddar yn eu papur lleol, y Cambrian News.
Roedd y llythyr yn ymateb i erthygl oedd yn cwyno bod y cyngor tref yn gwario £1,000 er mwyn cyflogi Bardd Tref.
Mae’r Cambrian News hefyd wedi cyhoeddi cerdd ddychanol yn beirniadu’r gwariant ers eu cwyn gwreiddiol.
Eurig Salisbury yw’r Bardd Tref cyntaf.
Yn y llythyr a rannwyd gyda BroAber360 gan y dirprwy faer Maldwyn Pryse, dadleua’r cynghorwyr bod y swm o £1,000 yn “hollol resymol am y swydd.”
“Rydym yn barod i drafod unrhyw benderfyniadau fel cynrychiolwyr etholedig, ond nid yw unrhyw ymosodiad (aflonyddu) ar unigolion yn sgil penderfyniadau yn dderbyniol,” meddai’r llythyr.
“Rydym un ac oll yn ymrafael gyda’r argyfwng costau byw, ond mae beio unigolion am benderfyniadau a wnawn ar y cyd yn ddi-fudd ac yn creu rhaniadau diangen.
“Mae Eurig Salisbury yn fardd uchel ei barch, mae wedi cyhoeddi ei waith a chafodd canmoliaeth uchel pan oedd yn Fardd Plant Cymru.
“Rydym yn ffyddiog y bydd yn dod â bri i’n tref yn ei swyddogaeth fel Bardd Tref.”
Mae’r Cambrian News wedi dweud wrth golwg360 na fydden nhw’n ymateb.
‘Sylwadau annheg’
Dywedodd y Maer Kerry Ferguson wrth golwg360 ei bod hi’n credu bod y sylwadau yn “annheg” a bod y papur eisoes wedi bod yn “trio corddi pethau sydd ddim yn disgyn o dan ein cyfrifoldebau ni fel cyngor tref.”
“Maen nhw wedi bod yn annheg efo Eurig yn enwedig, sydd wedi cymryd y baich, wir, o fod yn y bardd y dref gyntaf,” meddai.
“Oedden ni’n teimlo fel cyngor tref ei fod o’n annheg pigo arno fo, ond mae ganddo fo groen caled!”
Fodd bynnag, dywedodd bod y syniad wedi derbyn cefnogaeth gan y mwyafrif o’r cyhoedd.
“Mae’r ymateb ar Facebook wedi bod yn reit ddiddorol achos mae’r rhan fwyaf o bobol yn y dref i weld yn hoff o’r syniad,” meddai.
Cafodd Bardd y Dref ei gyhoeddi yn ystod seremoni sefydlu’r Maer yn y Llyfrgell Genedlaethol a dywedodd Kerry bod y syniad wedi cael ymateb da tu hwnt i ffiniau Aberystwyth.
“Roedd gennym ni ymwelwyr o rhai o’n gefeilldrefi, ni sef Arklow yn Iwerddon a St Brieuc yn Llydaw, ac roedden nhw’n meddwl bod y syniad yn grêt.”
Dywedodd Kerry fod St Brieuc yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yn eu dinas nhw’n barod, tra bod hefyd yna ddiddordeb gan Llanbedr Pont Steffan.
“Yn syth roeddet ti’n gweld bod o’n syniad poblogaidd a bod pobol yn ei licio fo, a dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni lawenu yn ein diwylliant yng Nghymru,” meddai.
Pam penodi Bardd Tref?
Felly, beth yn union yw rôl Eurig Salisbury fel Bardd y Dref?
Dewiswyd Eurig gan y Pwyllgor Bardd y Dref – sydd yn cynnwys rhai o’r cynghorwyr sydd ar y cyngor tref.
Dywedodd Kerry bod y bardd “wrth ei fodd” wrth iddo ymgymryd â’r rôl.
Y gobaith yw y bydd yn sgrifennu darnau pan fydd achlysuron arbennig yn y dref.
Dywedodd mai’r disgwyl swyddogol yw cael pedwar neu bum darn o farddoniaeth drwy gydol y flwyddyn, yn dibynnu ar beth sy’n mynd ymlaen.
“Mae’n rhaid i fi ddweud, mae Eurig wedi mynd over ac above yn barod,” meddai Kerry.
Dywedodd y Maer ei fod wedi paratoi darn ar gyfer parêd y Dywysoges Gwenllian yn ddiweddar a’i fod yn awyddus i roi stamp ei hun ar y rôl er mwyn sicrhau bod mwy o farddoniaeth yn digwydd o gwmpas y dref.
‘Bendant’ o barhau’r traddodiad
Daeth y syniad o gael Bardd y Dref gan y cynghorydd Emlyn Jones.
“Mae Aberystwyth am roi bid ymlaen er mwyn dod yn Adran neu Dref Llenyddiaeth UNESCO,” eglura Kerry.
“Rydym ni’n gobeithio gwneud hynny fel tref un ai flwyddyn nesaf neu’r flwyddyn wedyn.
“Felly, gyda hynny wrth gwrs rwyt ti eisiau dangos bod digon o ddiwylliant ac ati o ran yr iaith, llenyddiaeth, barddoniaeth ac yn y blaen.”
Dywedodd hi bod hyn yn gyfle i ddathlu diwylliant Aberystwyth.
“O ran tref mor fach, mae gennym ni o leiaf dri neu bedwar o rai sydd wedi ennill y gadair, er enghraifft, yn byw yn y dref.
“Mae yna ddigon o siopau llyfrau annibynnol yma ac mae’r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yn bwysig ac felly mae o i gyd yn plethu efo’i gilydd.”
Yn ôl Kerry, mae hi’n “bendant” bydd y traddodiad newydd yn parhau dros flynyddoedd i ddod, er gwaethaf y feirniadaeth.
Bydd y broses o ddewis Bardd y Dref ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cychwyn fis Ionawr.