Bydd Pwyllgor y Senedd yn holi Mark Drakeford ynglŷn â chymorth i bobl yng ngogledd Cymru heddiw (Gorffennaf 7).
Bydd Pwyllgor y Senedd sy’n Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn edrych ar sut mae’r Llywodraeth wedi mynd i’r afael â nifer o faterion sy’n wynebu’r gogledd.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Wrecsam gyda’r Aelod Llafur o’r Senedd, David Rees, yn cadeirio’r Pwyllgor.
Mae rhai o aelodau eraill y Pwyllgor yn cynnwys Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru, y Ceidwadwr Cymreig Russell George a’r aelod Llafur Jenny Rathbone.
Pryderon gofal iechyd
Ymysg y pynciau sy’n debygol o gael eu craffu arnynt mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi wynebu beirniadaeth sylweddol dros y misoedd diwethaf.
Bu galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r bwrdd iechyd ond cafwyd eu gwrthod.
Cafodd y bwrdd iechyd ei symud yn ôl i fesurau arbennig ym mis Chwefror eleni yn dilyn yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd gan Archwilio Cymru.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, eisoes wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi “colli ffydd” yn y ffordd mae’r bwrdd iechyd wedi cael ei reoli.
“Mae hi yn destun poen meddwl mawr i fi i feddwl bod cleifion a staff iechyd a gofal ar draws y gogledd yn gorfod byw efo lefel o ddiffyg cynaliadwyedd, o ddiffyg gwytnwch, o gamreolaeth o fewn eu Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig am y rhan fwyaf o’i fodolaeth.
“Rydw i wedi gwneud hi’n glir fy mod i wedi colli ymddiriedaeth yn y gallu gan y Llywodraeth i roi trefn ar bethau,” meddai.
Digon o drafnidiaeth?
Mae’n debygol bydd trafnidiaeth hefyd yn cael ei drafod gyda safon gwasanaethau bysiau a threnau yn bwnc sy’n codi pryder yn y gogledd ers cryn amser bellach.
Yn ôl adroddiad interim Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, dim ond un rhan o dair o drigolion gogledd Cymru sydd â mynediad at wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus bob awr.
“Mae hwn yn rhwystr sylweddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,” meddai’r Comisiwn.
Wedi i’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau ddod i ben eleni, cyhoeddwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46m ar gael i gefnogi’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES).
Bydd cynlluniau ar gyfer adeiladu trydedd bont dros y Fenai, sydd wedi cael eu trafod ers 2007, hefyd o bosib yn derbyn sylw.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad ddoe (Gorffennaf 6) y byddai rhan o Bont y Borth yn cau am 18 mis arall oherwydd gwaith adfer a diogelu.