Mae cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yr wythnos hon.
Derbyniodd Dr Daniel Huws, sy’n arbenigo ar lawysgrifau canoloesol, y radd am ei “gyfraniad neilltuol” i ysgolheictod a hanes Cymru.
Trodd ei olygon at y llawysgrifau yn 1967, ychydig flynyddoedd ar ôl dechrau gweithio fel archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac ers hynny mae ei gyhoeddiadau wedi newid dealltwriaeth Cymru o’i threftadaeth.
Yn 1996, ar ôl ymddeol, dechreuodd weithio ar ei astudiaeth fawr, A Repertory of Welsh Manuscrips and Scribes, c.800-c.1800, sy’n yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymreig a Chymraeg a’u hawduron.
Cafodd tair cyflog o’r Repertory eu cyhoeddi’r llynedd, pan oedd Dr Daniel Huws ar drothwy ei ben-blwydd yn 90 oed.
Yn y seremoni ddydd Gwener (Gorffennaf 7), fe’i hanrhydeddwyd i gydnabod ei gyfraniad neilltuol i ysgolheictod a hanes Cymru.
‘Un o ysgolheigion mwyaf y genedl’
Yn cyflwyno Dr Daniel Huws i’r gynulleidfa roedd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a dywedodd ei bod hi’n bleser cyflwyno’r ddoethuriaeth iddo.
“Mae Daniel Huws yn un o ysgolheigion mwyaf ein cenedl ac yn awdurdod rhyngwladol ar lawysgrifau.
“Ychydig dros flwyddyn yn ôl, ddiwedd Mehefin 2022, ar drothwy pen-blwydd Daniel yn ddeg a phedwar ugain oed, roeddem yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn lansio ei gampwaith, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes circa 800 to circa 1800, yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
“Ein braint yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a’r Brifysgol hon, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, oedd cyhoeddi’r cyfrolau hyn sydd bellach wedi canfod eu ffordd i lyfrgelloedd a darllenwyr ar draws y byd.”
‘Anrhydedd annisgwyl’
Wrth dderbyn y Ddoethuriaeth er Anrhydedd, dywedodd Dr Daniel Huws ei fod yn diolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am yr “anrhydedd annisgwyl”, a’i fod yn hynod ddiolchgar i’r brifysgol
“Diolch hefyd i’r Athro Medwin Hughes. Mae wedi cymryd diddordeb mawr yn y Repertory ac mae ei gefnogaeth wedi bod yn gwbl allweddol. Diolch yn fawr iawn i chi,” meddai.
Er bod fy enw ar y gwaith, mae’r Repertory wedi bod yn ddibynnol ar nifer o bobl. Ni fyddai dim byd yno oni bai am y gefnogaeth, yr wyf wedi’i chael gan gynifer o bobl.
“Hoffwn roi sylw arbennig i Dr Gruffudd Antur – rydych chi’n mynd i weld pethau mawr ganddo yn y dyfodol.”