Mae un o gynghorwyr Ynys Môn yn dweud eu bod nhw am ddefnyddio arian sy’n cael ei godi trwy’r premiwm ail gartrefi “i sicrhau bod pawb yn gallu cael rhywle i’w alw’n adref”.

Daw sylwadau’r Cynghorydd Gary Pritchard wrth i Gyngor Sir Ynys Môn annog prynwyr tro cyntaf a phobol sy’n methu fforddio prynu tŷ ar y farchnad agored i geisio am gymorth ganddyn nhw.

Mae Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn bellach yn defnyddio £390,000 o arian gafodd ei sicrhau drwy’r premiwm ar ail dai i helpu trigolion lleol i brynu eu cartref cyntaf.

Mae gan awdurdodau lleol bwerau bellach i godi mwy o dreth gyngor ar eiddo nad yw ond yn cael ei ddefnyddio bob hyn a hyn fel ail gartrefi, neu sy’n eiddo gwag hirdymor.

Mae Cyngor Ynys Môn yn dweud eu bod nhw’n gwneud y defnydd gorau posib o’r premiwm a’r cyllid maen nhw wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Maen nhw eisoes wedi ymrwymo bron i £1.5m tuag at gynlluniau o gronfa premiwm y dreth gyngor i gwrdd â’r galw am dai lleol ac i helpu prynwyr tro cyntaf.

Bydd y Cynllun Prynu Cartref yn adeiladu ar y llwyddiant yma drwy ddarparu cymorth ychwanegol i drigolion lleol ar ffurf benthyciadau ecwiti i brynu tŷ.

Y cynllun

Mae Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn ar gael i:

  • brynwyr tro cyntaf lleol sy’n cael trafferth prynu cartref
  • pobol sydd wedi bod yn berchen ar eiddo yn y gorffennol ond sydd ddim ar hyn o bryd
  • perchnogion sydd eisoes yn rhan o gynllun rhannu ecwiti ac sydd yn chwilio am gartref mwy addas

Mae’r cynllun yn golygu y bydd y Cyngor yn rhoi benthyciad ecwiti i ymgeiswyr – sydd methu cael morgais digonol i brynu ar y farchnad agored – er mwyn eu galluogi i brynu cartref heb orfod ariannu’r gost yn llawn.

Wedyn bydd y tŷ yn dod yn eiddo ecwiti sy’n cael ei rannu.

Bydd rhaid i ymgeiswyr fod â blaendal o 5% o leiaf i fod yn rhan o’r cynllun.

Os, neu pan gaiff yr eiddo ei werthu, bydd y perchennog yn ad-dalu’r gyfran ecwiti sy’n ddyledus i’r Cyngor yn seiliedig ar werth canran ecwiti’r Cyngor ar adeg gwerthu’r eiddo.

“Y neges bwysicaf gennym ni a fi fel y deilydd portffolio a gennym ni fel Plaid ar Ynys Môn sy’n arwain y cyngor ydy rydym yn defnyddio’r premiwm ar ail gartrefi i sicrhau bod pawb yn gallu cael rhywle i alw’n adref,” meddai’r Cynghorydd Gary Pritchard.

Tai o ansawdd

Mae gan wasanaeth tai’r Cyngor gyfrifoldeb i asesu anghenion tai ac arwain gwaith partneriaeth i ddarparu tai o ansawdd.

“Mae’n Strategaeth Dai ar gyfer 2022-2027 yn parhau i chwarae rôl ganolog wrth i ni weithio’n annibynnol, a chyda phartneriaid allweddol, i gwrdd ag anghenion tai ein trigolion lleol nawr ac yn y dyfodol,” meddai Ned Michael, y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

“Yn ogystal ag adeiladu nifer o dai Cyngor newydd, rydym yn creu cartrefi i deuluoedd drwy brynu hen dai cyngor yn ôl a dod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd.”

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, mae’r premiwm “yn cynnig cyfle unigryw i ymateb i’r argyfwng tai presennol”.

“Ein nod yw cefnogi pobol leol i allu byw mewn tai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain,” meddai.

“Rydym eisiau sicrhau bod gan bawb hawl i alw rhywle’n gartref.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Prynu Cartref Ynys Môn ar gael ar wefan Tai Teg ac mae copi o Bolisi Rhannu Ecwiti Cyngor Sir Ynys Môn ar gael ar eu gwefan.

‘Neges bwysig’

Er mwyn cadw pobol ifanc yn enwedig ar yr ynys, mae nifer o gynlluniau i roi’r hawl i bobol gael cartref.

“Hwnna ydy’r neges graidd gennym ni, boed o’n dod â thai gwag ’nôl i ddefnydd, boed o’n prynu hen dai cyngor i ddod â nhw’n ôl i stoc Cyngor, boed o’n sicrhau ein bod ni’n gallu codi tai fforddiadwy,” meddai Gary Pritchard wedyn.

“Rydym yn codi tai cyngor newydd hefyd, a’r cynllun rhannu ecwiti hefyd.

“Mae’n bwysig bod ein pobol ifanc ni’n gallu fforddio aros ar yr ynys.

“Dydyn ni ddim eisiau bod ein pobol ifanc ni’n teimlo’u bod nhw’n gorfod symud i ffwrdd.

“Roedd yn un o’r pethau oedd yn codi ar y stepen drws efo pobol, pethau rydym ni’n ymwybodol iawn ohonyn nhw, felly dyma beth rydym yn ceisio gwneud mewn ffordd.”

Y broblem

Gydag adroddiad ar Fehefin 20 yn dangos bod mwy o ail dai ar Ynys Môn nag unrhyw le arall yng Nghymru – a Lloegr hefyd – dydy ymchwydd y farchnad dai a chyflogau cyfartalog ddim yn ei gwneud yn hawdd i bobol brynu tai ar yr ynys.

“Ar y stepen drws wrth ymgyrchu am etholiadau Cyngor sir un peth oedd yn amlwg bod tai fforddiadwy i bobol leol ddim mor hawdd i’w cael ar Ynys Môn,” meddai Gary Prithcard.

“Rydym yn gwybod o’r adroddiad fod y cynnydd mwyaf mewn ail gartrefi yn unrhyw le yng Nghymru a Lloegr yma ar Ynys Môn.

“Mae sicrhau bod gan bawb rywle i alw’n adref yn rhan allweddol o’n gweledigaeth ni ar gyfer yr ynys a’i phobol.

“Mae fy mhlant i o’r genhedlaeth lle mae hi bron yn amhosib iddyn nhw allu fforddio tŷ.

“Rwy’n ddigon hen i allu bod wedi cael fy nhroed ar yr ysgol prynu tai.

“Mae fy mhlant i’n mynd i ffeindio hynny’n ofnadwy o anodd. Maen nhw’n 21 a 23.

“Dim, dim ond y genhedlaeth yna ydy o chwaith, prynwyr tro cyntaf ydy o, does dim rhaid iddyn nhw fod yn ifanc.

“Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobol sy’n mynd i wneud ceisiadau am fod yn ifanc.

“Does dim rhaid iddynt fod, cyn belled â’u bod nhw eisiau cael eu troed ar yr ysgol farchnad dai.

“Os wyt ti’n edrych ar faint mae’n costio i brynu tŷ dyddiau yma i beth roedd yn costio cenhedlaeth yn ôl, mae faint ydy o i gymharu efo cyflog cyfartaledd yn aruthrol, felly mae cael ar y farchnad dai yn ddigon anodd fel mae hi.

“Mae rhai pobol yn hapus i rentu, ond mae rhai pobol eisiau prynu, felly rydym yn rhoi’r cynnig yna i bobol.

“O ran pam bod o’n anodd, mae llawer o ffactorau.

“Mae chwyddiant yn y farchnad dai wedi codi yn sylweddol.

“Mae pris tŷ ar Ynys Môn llawer mwy nag ydy cyfartaledd cyflog.

“Dydy’r ffaith bod gennym gymaint o ail gartrefi ar yr ynys ddim yn helpu’r ffactor, oherwydd bod llai o dai i’w prynu.”

Defnydd yr arian

Wrth fod yn agored gyda phobol sy’n talu’r premiwm, gallan nhw ddeall yn iawn bod eu harian yn mynd tuag at helpu pobol i gael cartref.

“I rheini sy’n gorfod talu’r premiwm ail dai pan maen nhw’n gofyn beth rydych yn gwneud efo’r arian?,” meddai Gary Pritchard.

“Rydym yn gallu dweud, rydym yn helpu pobol leol i brynu tai neu i gael tŷ, boed o’n dŷ cyngor neu dŷ fforddiadwy newydd, neu fod o’n gynllun rhannu ecwiti.

“Rydym yn eithaf agored efo’r rheini sy’n gorfod talu’r premiwm, dyna sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio.

“Rydym yn llwyr ymwybodol bod hwn yn rhywbeth sy’n wir i lawer o siroedd,” meddai.

Rhan o’r ateb

Gyda’r premiwm tai am gynyddu, mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu pobol prynu tai ac mae nifer o bethau eraill yn cael eu gwneud â’r arian hefyd.

“Ar hyn o bryd mae cyngor Ynys Môn yn codi 75% yn ychwanegol ar y rhai sydd efo ail gartref ar yr ynys,” meddai Gary Pritchard.

“Bydd hynny yn codi 100% yn ychwanegol blwyddyn nesaf.

“Rydym yn defnyddio’r arian yna i helpu pobol sydd methu fforddio un tŷ.

“Mae hwn yn un o’r pethau rydym yn gwneud efo’r arian premiwm, sef sefydlu cronfa i brynwyr tro cyntaf allu rhannu ecwiti efo ni.

“Mae gennym ni dai, rydym yn adeiladu.

“Rydym yn dod â stoc tai cyngor yn ôl, tai oedd yn arfer bod yn berchen i’r Cyngor, yn ôl i’n stoc ni os ydyn nhw’n dod ar y farchnad.

“Rydym yn dod â chartrefi neu dai gwag yn ôl i ddefnydd fel bod y tai gwag yna’n troi yn gartrefi.

“Nid pawb sydd eisiau rhentu.

“Mae yna rai pobol eisiau prynu tŷ felly rydym yn teimlo ei bod hi’n iawn i gynnig y cynllun yma sy’n rhannu ecwiti efo prynwyr tro cyntaf sy’n gallu cael eu troed nhw ar yr ysgol.”