Bydd canolfan newydd yn cael ei hagor yng Nghaernarfon er mwyn diwallu anghenion pobol ifanc, diolch i bartneriaeth rhwng Gisda a Chyngor Gwynedd.

Fel rhan o’r prosiect Lle Da, bydd hen adeiladau banc Natwest a’r elusen ddigartrefedd pobol ifanc Gisda yn cael eu trawsnewid yn llety pedwar fflat.

Y gobaith yw galluogi pobol ifanc i fyw yn annibynnol gyda chymorth gan Gisda, a chreu hwb amlasiantaethol i gefnogi pobol ifanc Gwynedd.

“Y bwriad ydi bod mudiadau yn cyd-weithio gyda’i gilydd yn y gofod yma, a bod y cymorth mae’r bobol ifanc eu hangen i gyd yn yr un lle,” meddai Ceri Hughes, Cydlynydd Cyfathrebu Gisda, wrth golwg360.

“Mae’r broses o ffonio mudiadau un ar y tro yn gallu bod yn anodd, felly os byddan nhw angen help o ran budd-daliadau neu’r bwrdd iechyd, er enghraifft, bydd o fel one stop shop mewn ffordd.”

‘Lleihau’r straen’

Dywed Ceri Hughes y bydd y prosiect yn cydweithio gyda mudiadau eraill ac yn cefnogi’r bobol ifanc gydag anghenion tai, budd-daliadau, iechyd a lles, addysg a chyflogaeth.

“Mae’n gallu bod yn llethol i berson ifanc gyda nifer fawr o fudiadau angen ei weithio gyda, mi fydd yr hwb amlasiantaethol yn gweithio ar leihau’r straen yma ar bobol ifanc gan gynnig yr holl gefnogaeth maent eu hangen o dan un to,” meddai.

Bydd hefyd amryw o wasanaethau eraill yn cael eu cynnig yn y ganolfan newydd, gan gynnwys caffi lle bydd pobol ifanc yn gallu cael hyfforddiant.

“Bydd hyn yn cefnogi pobol ifanc i mewn i swyddi a byddan nhw’n cael achrediadau o hynny, ac felly’n eu paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith,” meddai.

“Mi fydd o’n mynd i’r afael â digartrefedd ac yn rhoi mwy o lety i bobol ifanc.”

Wedi ei ddylunio gan bobol ifanc

Yn ôl Ceri Hughes, mae pobol ifanc wedi chwarae rôl fawr ym “mhob agwedd” ar ddyluniad y ganolfan.

“Mae’n rili cyffrous, rydyn ni wedi bod yn cydweithio efo Co-production Network Wales,” meddai.

“Llynedd, roedden nhw’n cynnal gweithdai gyda’r bobol ifanc er mwyn iddyn nhw gael pasio eu syniadau o sut roedden nhw eisiau i’r gofod edrych a theimlo ymlaen.”

Mae’r dylunydd Laura Sorvala wedi creu graffeg o anghenion pobol ifanc Gwynedd gododd fel rhan o’r gwaith ymgysylltu.

Bydd y ganolfan yn anelu i fynd i’r afael â’r rhain, ac yn cynnig amryw o wasanaethau, gan gynnwys cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant i bobol ifanc.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cydweithio er budd pobol ifanc yng Ngwynedd,” meddai.

‘Falch o gyd-weithio’

Dywed Craig ab Iago, yr Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo, ei bod yn “galonogol” gweld y gwaith yn mynd rhagddo.

“Mae’r prosiect yn gam hanfodol ymlaen yn ein hymdrechion i gefnogi pobol ifanc sy’n wynebu digartrefedd yng Ngwynedd,” meddai.

“Rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda Gisda i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn, ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar fywydau pobol ifanc Gwynedd.”

Dywed Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr Gisda, ei bod hi’n “falch iawn o’r prosiect”.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall Awdurdod Lleol, Llywodraeth, a sefydliad trydydd sector weithio gyda’i gilydd i wneud y mwyaf o’u hadnoddau a’u harbenigedd, er budd y rhai sydd angen ein gwasanaethau,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid, busnesau lleol, pobl ifanc a’r gymuned i lunio’r cyfleuster newydd hwn a diwallu anghenion y rhai rydym yn eu cefnogi.”

Mae’r prosiect yn anelu i fod yn barod erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf.