Mae Goruchaf Lys Sbaen wedi cyhoeddi gwarant o’r newydd i arestio Aelod o Senedd Ewrop pe bai hi’n dychwelyd i Sbaen.
Daw hyn ar ôl i Clara Ponsatí beidio mynd i’r llys ym mis Ebrill.
Roedd disgwyl i’r gwleidydd alltud ddychwelyd i’r wlad ddiwedd mis Mawrth i wynebu cyhuddiad o anufudd-dod mewn perthynas â’i rhan yn refferendwm annibyniaeth 2017, pan oedd hi’n weinidog addysg yn Llywodraeth Catalwnia.
Dywed y barnwr yn yr achos y byddai’r gwarant yn cael ei ddileu pe bai hi’n fodlon mynd i’r llys o’i gwirfodd.
Yn dilyn diwygio’r gyfraith yn Sbaen, ac adolygiad y Goruchaf Lys o’r cyhuddiadau mae unigolion yn eu hwynebu mewn perthynas â’r ymgyrch dros annibyniaeth, dydy Clara Ponsatí ddim bellach yn wynebu cyhuddiadau mwy difrifol o annog gwrthryfel neu o weithredu yn erbyn y drefn gyhoeddus drwy drais.
Does dim modd dedfrydu unigolyn i gyfnod o garchar am anufudd-dod o dan y drefn newydd.
Mae cyfreithwyr ar ei rhan yn dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn dyfarniad y llys, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd yn union ble mae hi.
Roedd disgwyl iddi ddychwelyd i’r llys ym Madrid ar Ebrill 24 ar ôl iddi gael ei harestio yn Barcelona, ond dydy’r llys ddim yn derbyn nad oedd hi wedi mynd i’r llys am fod ganddi ymrwymiadau gwaith.
Bu’n byw’n alltud am bum mlynedd yn yr Alban a Gwlad Belg.