Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n sefydlu Grŵp Cyfeirio Cymunedol yn dilyn yr anhrefn yn Nhrelái fis Mai.

Mewn datganiad, dywed Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, eu bod nhw wedi bod yn trafod ffyrdd i sicrhau bod y cynllun yn cael ei arwain gan y gymuned.

Mae hi wedi cadarnhau y bydd y sefydliad Action for Caerau and Ely, sydd â hanes o gefnogi’r cymunedau hyn, yn ymgymryd â rôl gydlynu.

Dywed y bydd y grŵp yn cydweithio â sefydliadau lleol a thrigolion o bob oedran trwy gyfrwng grŵp llywio lleol.

“Bydd y dull hwn yn sicrhau bod y cynllun cymunedol wedi’i wreiddio’n ddwfn yn anghenion a dyheadau pobl Trelái a Chaerau,” meddai.

Bydd gwaith y grŵp llywio lleol yn cael ei gefnogi gan y Grŵp Cyfeirio Cymunedol, sydd wrthi’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd.

Bydd y grŵp yn cynnwys aelodau allweddol o wasanaethau cyhoeddus a chynrychiolwyr cymunedol.

Aflonyddwch yn Nhrelái

Bu aflonyddwch yn y gymuned wedi marwolaethau Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16.

Yn ystod yr anrhefn, bu unigolion yn fandaleiddio ceir ac yn eu rhoi ar dân.

Roedd sawl un hefyd yn taflu gwrthrychau at yr heddlu oedd yn ceisio tawelu’r sefyllfa.

Wrth ymateb i’r anhrefn, dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, fod angen sicrhau ymddiriedaeth gan y cyhoedd.

“Mae didwylledd a deialog yn elfennau hanfodol o sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sefydliadau sy’n eu gwasanaethu, ynghyd â’r gostyngeiddrwydd i gydnabod – mewn rhai rhannau o’n cymunedau – nad yw lefel yr ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus lle mae angen iddi fod,” meddai.

‘Ymateb cadarn, pwrpasol’

Jane Hutt fydd yn cadeirio’r grŵp, tra bydd Huw Thomas yn is-gadeirydd.

Bydd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu’r De, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r cynllun cymunedol.

Mae’n fwriad ganddyn nhw gynnal cyfarfod cyntaf y grŵp ddechrau mis Gorffennaf, a dywed Jane Hutt y bydd yn mynd i gyfarfod nesaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro.

“Wrth ddatblygu’r ymateb cadarn, pwrpasol hwn i’r digwyddiadau trasig yn Nhrelái, rwy’n parhau i fod yn ystyriol o anghenion cymunedau eraill,” meddai Jane Hutt.

“Bydd ein gwaith yn Nhrelái a Chaerau yn helpu i lywio’r rhaglenni ehangach i gydweithio â chymunedau ledled Cymru, a’u cefnogi.”

Ffocws ar blant a phobol ifanc

Bydd manylion pellach ynglŷn â’r cynllun cymunedol yn dod i’r fei yn dilyn trafodaethau’r grŵp llywio lleol.

Fodd bynnag, dywed Jane Hutt y bydd ffocws cryf ar gefnogi plant a phobol ifanc.

Felly, bydd cyfres o weithgareddau’n cael eu cynnal i ymgysylltu â nhw tra bo’r cynllun cymunedol yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf.