Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 21) yw diwrnod hira’r flwyddyn, ac mae sawl enw Cymraeg ar y diwrnod sy’n nodi diwrnod cyntaf traddodiadol yr haf – Hirddydd Haf, Heuldro Haf, Alban Hefin a mwy.

Yn y calendr traddodiadol Cymreig, byddai’r diwrnod yn cael ei ddathlu trwy ddawnsio, miri a chynnau coelcerthi – dathliadau oedd yn cael eu hystyried yn hanfodol i gynhyrchu cnwd hael.

Credai Derwyddon y Brythoniaid Celtaidd fod planhigion meddyginiaethol fyddai’n cael eu cynaeafu ar y diwrnod hwn yn arbennig o gryf, a hyd heddiw mae pobol yn gwneud y mwyaf o arddio ar Fehefin 21 bob blwyddyn.

Diwrnod arbennig

Mae rhai Cymry, fel Siân Melangell Dafydd a’i mab, yn aros yn ffyddlon i’r traddodiad Celtaidd drwy groesawu’r diwrnod drwy ddathlu.

Maen nhw’n byw ychydig filltiroedd tu allan i’r Bala i gyfeiriad y Berwyn.

“Beth ydy o er bod y tymhorau yn dueddol o newid ac mae ac rydym yn gweld bod nhw’n tyfu yn gynt yn y tymor oherwydd bod hi’n mynd yn gynhesach,” meddai Siân Melangell Dafydd wrth golwg360.

“Dydy’n perthynas ni efo’r haul ddim yn newid.

“Beth sydd yn digwydd ar y diwrnod arbennig yma ydy bod pobol yn dathlu mai hwn ydy’r diwrnod efo mwyaf o oriau, munudau ac eiliadau o olau haul.

“O’r diwrnod yma ymlaen tan ddiwrnod Calan Gaeaf, mae hi’n tywyllu yn araf deg bach nes ein bod ni’n cyrraedd y diwrnod tywyllaf.”

Yn draddodiadol a hyd heddiw mae’r diwrnod yma’n cael ei groesawu a’i nodi drwy ymarferion a defodau amrywiol.

“Mewn gwirionedd, rhywfaint o ddyfalu sydd yna am y traddodiadau union,” meddai.

“Dydy o ddim yn rywbeth sydd wedi ei wneud yn drylwyr i gadw traddodiadau gwerin ar gof a chadw.

“Un o’r pethau rwy’n mwynhau gwneud yw mynd ar ôl ambell i edefyn o syniad er mwyn atgyfnerthu, ond hefyd i ateb y traddodiad yna i wneud ychydig bach ohono fo fy hun.

“Mae pobol yn draddodiadol wedi codi efo’r wawr ac efallai mynd i begwn uchel, top mynydd, y lle gorau i fod yn sylwgar a gweld y wawr a bod e’n foment i edrych nôl ar y chwarter diwethaf o’r flwyddyn, neu hyd yn oed yr hanner diwethaf os ti’n ystyried o Galan Gaeaf hyd at rŵan.

“I ystyried sut fath o ddaioni mae’r hanner neu chwarter blwyddyn yna wedi dod i ti, mewn ffordd i groesawu a dathlu defodiad tywyllwch.

“Er bod pobol yn dueddol o feddwl am dywyllwch fel rhywbeth trwm a thrist, bod o’n foment i fod yn ddiolchgar ac ymwybodol o ba mor hanfodol ydy’r cydbwysedd yna o olau a thywyllwch mewn bywyd a bod ti’n rhoi nod iddyn nhw i gyd.

‘Efo ymwybyddiaeth o’r tymor sydd yn dod efo unrhyw un o’r gwyliau Celtaidd, fyset ti’n trin y tir a beth mae’r tir yn ei gynnig i ti ac yn gwneud defod o hyn, bron iawn.

“Mae hwn yn ddiwrnod traddodiadol i fod yn casglu un ai blodau sydd â gwerth meddyginiaethol fel rhosod, gwyddin, ysgawen, neu ar y llaw arall efallai byset ti’n casglu perlysiau sydd ar eu gorau rŵan, pethau fel rhosmari neu oregano.

“Mae’n nod i werthfawrogi’r gorau o’r tymor a’i werthfawrogi fo drwy ei gadw fo.”

Gwreiddio plant yn ein diwylliant

Yng ngwir draddodiad y Celtiaid, mae Siân Melangell Dafydd yn cofio treigl amser gyda’r genhedlaeth nesaf drwy natur, crefftau a chymdeithasu.

“Mae’r holl wyliau Celtaidd yn cynnig nhw eu hunain i wreiddio plant mewn deall beth yw amser, beth yw blwyddyn, beth yw tymhorau, beth yw natur, i fagu ynddyn nhw’r gwerthfawrogiad hwnnw o batrwm ac o natur,” meddai.

“Digwydd bod, gennyf i blentyn sydd yn bump oed.

“Gelli di wneud llawer o bethau, nid o anghenraid ar y diwrnod ond yn yr wythnos gyffredinol pan mae’r ŵyl yn glanio.

“Rydyn ni wedi gwneud rhyw faint o wehyddu mewn cylch fel ei fod yn edrych fel haul.

“Roeddem wedi adeiladu Bryn Gelli Ddu efo lego un flwyddyn.

“Heddiw yma, rydym yn gwneud toes mewn siâp haul, rydym yn bwyta efo’n teulu heddiw ond rydym hefyd yn ymgynnull efo ffrindiau fory.

“Byddwn yn cynnau tân, wrth gwrs, sy’n cynrychioli tân yr haul ei hun ac yn cymryd moment i ystyried pwysigrwydd amser yma’r flwyddyn.

“Mae yna gymaint o grefftau fel yna galli di ddod â nhw i fywyd plentyn.

“Rydym am fynd allan prynhawn yma i gasglu blodau gwyllt, fi yn rhannol i gynaeafu nhw, ond rydym am eu gwneud yn rhyw fath o goron.

“Efo blodau gwyllt mewn coron, byddwn ni’n dau yn edrych reit wyllt erbyn diwedd y prynhawn!

“Rwy’n meddwl ei fod yn beth hyfryd i wneud i wahodd plant i mewn i seremoni i greu eu defodau eu hunain yn rhan o’r broses.”

Anodd ffeindio amser

Er ein bod ni fel Cymry’n rhan o draddodiad Celtaidd, mae’n anodd cael hyd i amser yn yr oes sydd ohoni i groesawu a chofio, yn ôl Siân Melangell Dafydd.

“Mae dathlu’r gwyliau Celtaidd yma yn beth anodd iawn i wneud oherwydd bod nhw’n glanio ganol wythnos, ac mae pobol yn brysur,” meddai wedyn.

“Mi ddaeth Calan Gaeaf tridiau cyn y Nadolig pan mae pobol yn boncyrs o brysur.

“Rwyt ti efallai yn gorfod gwneud dau beth.

“Un ydy bod yn benderfynol bo ti am nodi fo rywsut, hyd yn oed os ydy o ddim ond yn codi perfeddion bore fel gwnes i, neu gynnau cannwyll a chymryd moment i chdi dy hun efo rhosyn i ddweud ‘Rwy’n gwerthfawrogi x,y,z sydd wedi digwydd i fi yn y chwe mis diwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at beth bynnag’, ac enwi nhw.

“Dyna fo, dyna’r cwbl ti’n gwneud os oes gennyt yr amser i wneud.

“Mae mor anodd nodi rhywbeth sydd mor bwysig, mae’n rhaid hefyd bod yn annwyl ac addfwyn efo’n hunan a dweud, ‘Dydy o ddim yn bosib o hyd, os dydw i ddim yn dathlu fo heddiw galla i ddathlu fo tridiau cynt neu ar y penwythnos wedyn’.

“Wedyn, rwyt yn creu rhywbeth bach personol i dy hun.

“Y gwir ydy, dydy’r byd ddim yn stopio nac arafu i ni fod yn dathlu ein dyddiau.

‘Yn ystod y flwyddyn mae yna lwyth ohonynt yn dod.

“Rwyt yn gorfod ffeindio amser ble rwyt ti’n gallu’u dathlu nhw’n ysgafn yn ystod yr wythnos, yn hytrach na meddwl bo ti’n gorfod dathlu fo heddiw, ac mae’r diwrnod wedi mynd ac rwyt ti wedi bod yn y gwaith.

“Dydy’r byd ddim yn arafu, a gallwn wasgaru fo’n ysgafn yn ystod yr wythnos.”

Garddio

Oherwydd bod yr haul yn tywynnu cyn hired heddiw, mae’n amser perffaith i droi at arddio, gyda blodau’n hardd i’r llygaid tra bod y planhigion bwytadwy yn dda i’r corff.

“Yng nghylch bywyd y planhigyn mae ar ei orau,” meddai Siân Melangell Dafydd.

“Mae unrhyw un sy’n garddio yn ymwybodol o ba mor gyfoethog ydy eu gerddi nhw ar hyn o bryd.

“Roedd fy rhiwbob wedi cyrraedd ei orau wythnos diwethaf.

“Mae yna lawer o blanhigion sy’n cyrraedd eu gorau o gwmpas yr amser yma o’r flwyddyn.

“Wrth gwrs, rwyt ti eisiau cynaeafu nhw a pha bynnag driniaeth ti’n gwneud iddyn nhw fel eu bod nhw’n para drwy’r gaeaf, fel bo ti’n gwerthfawrogi a bod dy gorff yn cael y gorau ohonyn nhw.

“Ti angen eu trin nhw pan maen nhw ar eu gorau.

“Un peth yn draddodiadol rwy’n ceisio gwneud o gwmpas yr adeg yma ydy, byddwn yn ceisio plannu fy ngarlleg ar Galan Gaeaf a’i gynaeafu fo i’w bigo fo heddiw.

“Wrth gwrs, mae’n ddibynnol ar sut mae wedi byw yn hanner y flwyddyn yna.

“Rwyt ti’n gorfod edrych ar y dail a gweld os mae digon o’r dail wedi troi yn wyrddfelyn ac yn gwyro at y tir.

“Yn draddodiadol, byddet yn pigo dy arlleg ar y diwrnod yma hefyd.”

Felly, sut ydych chi’n dathlu heddiw?