Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi papur ar annibyniaeth, gan nodi sut olwg fyddai ar Alban annibynnol yn y dyfodol.

Dyma’r papur diweddaraf mewn cyfres gan yr SNP er mwyn helpu pobol i wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol y wlad.

Ar ôl annibyniaeth, byddai’r Alban yn gadael system gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ac yn mabwysiadu cyfansoddiad newydd sbon, meddai’r papur.

Does gan y Deyrnas Unedig ddim cyfansoddiad fel y cyfryw, ond mae yna gyfres o gyfreithiau, confensiynau a chynsail ar gyfer sut mae’n cael ei rhedeg.

Mae gan Lywodraeth San Steffan sofraniaeth, sy’n golygu mai mwyafrif yn unig sydd ei angen er mwyn deddfu ar unrhyw fater.

Pam fod angen cyfansoddiad?

Byddai cyfansoddiad yn sicrhau bod yr Alban yn wlad fwy democrataidd, yn ôl yr SNP.

Ar ôl ennill annibyniaeth, gallai’r Alban fabwysiadu cyfansoddiad sy’n adlewyrchu safbwyntiau ac agweddau Albanwyr yn well, gan sicrhau bod y grym go iawn yn nwylo’r bobol.

Fyddai’r cyfansoddiad ddim yn gallu cael ei newid drwy ennill mwyafrif yn unig, meddai’r blaid.

Byddai cyfansoddiad yn:

  • darparu fframwaith ar gyfer y llywodraeth
  • gwarchod hawliau trigolion yr Alban – er enghraifft, yr hawl i ryddid barn a phrawf teg mewn llys barn
  • gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel gwasanaeth rhad ac am ddim o’r cychwyn, a rhag cael ei werthu i gwmnïau preifat
  • gwarchod hawliau gweithwyr, gan gynnwys yr hawl i streicio ac i ymuno ag undeb

Byddai’r Alban yn mabwysiadu cyfansoddiad newydd ar y diwrnod cyntaf ar ôl ennill annibyniaeth, ac yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer unrhyw gyfnod interim rhwng gadael y Deyrnas Unedig a mynd yn wlad gwbl annibynnol.

Byddai confensiwn cyfansoddiadol yn llunio’r cyfansoddiad newydd, a’r confensiwn hwnnw’n gyfuniad o gynrychiolwyr o fywyd sifil yr Alban.

Byddai angen sêl bendith Senedd yr Alban er mwyn mabwysiadu cyfansoddiad yn derfynol, a refferendwm er mwyn sicrhau cydsyniad trigolion yr Alban.