Mae Plaid Cymru’n crybwyll datganoli plismona a chyfiawnder yn nghyfarfod llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 21).
Daw hyn yn dilyn galwadau gan y blaid i ddatganoli’r pwerau hyn yn llawn, a gwneud heddluoedd Cymru’n gwbl atebol i’r Senedd.
Maen nhw hefyd eisiau gweld system gyfreithiol benodol yn cael ei sefydlu yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig genedl ddatganoledig heb ei system gyfreithiol ei hun na phwerau dros ei heddluoedd.
Y cais ffurfiol cyntaf
Bydd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cais ffurfiol am y pwerau hyn.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fe wnaeth yr Arglwydd Dafydd Wigley ganfod nad oes cais ffurfiol i ddatganoli’r pwerau hyn wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru eto, er iddyn nhw honni y bydden nhw’n cefnogi’r penderfyniad.
Er hynny, dywedodd Carolyn Harris, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, y llynedd na fyddai hi’n “frwd iawn” dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru.
‘Anghydraddoldeb yn y system gyfiawnder’
Fodd bynnag, dywed Rhun ap Iorwerth y “gall system cyfiawnder troseddol sydd wedi’i datganoli’n llawn fod yn gam hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth”.
“Mae Cymru yn alltud o ran cyfiawnder a phlismona, am ei bod yr unig genedl ddatganoledig sydd heb reolaeth dros faterion cyfiawnder troseddol,” meddai.
“Ond er bod y Llywodraeth Lafur yn hapus i gydnabod hyn yn anghyson, nid ydynt yn dangos unrhyw frys i’w datrys. Mae anghydraddoldeb yn rhan ganolog o’n system gyfiawnder.
“Ond gyda hyder y cyhoedd yn yr heddlu yn isel, a throseddu yng Nghymru ar ei lefel uchaf erioed, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r cyfle gorau i ni fynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol.
“Mae eu diffyg gweithredu pendant yn siarad yn uwch na’u geiriau.”
Cefnogaeth Adam Price
Un arall sydd wedi galw i’r cais am ddatganoli mynd yn ei flaen yw Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’n gwbl hanfodol i Gymru feddu ar bwerau deddfu llawn dros gyfiawnder a phlismona, fel y gallwn adeiladu system gyfreithiol Gymreig benodol,” meddai.
Mae disgwyl y bydd y Blaid Lafur yn cytuno â chynnig Plaid Cymru, ond maen nhw wedi cynnig gwelliant er mwyn dileu’r gofyniad iddyn nhw orfod cymryd camau tuag at ddatganoli ar unwaith.