Bydd ymgynghorwyr yn cael eu tynnu i mewn i Bowys i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg i gynghorwyr ac uwch-reolwyr.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Powys ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 20), derbyniodd cynghorwyr adroddiad blynyddol drafft ar sut roedd y Cyngor wedi perfformio yn erbyn gofynion y Safonau Iaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Fis Medi y llynedd, fe wnaethon ni sefydlu panel llywodraethiant iaith Gymraeg gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ledled y Cyngor,” meddai Siôn Rowley, y Swyddog Iaith Gymraeg.
“Roedd Dr Caroline Turner, y Prif Weithredwr, a’r Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy’n cadeirio’r panel, yn teimlo bod angen hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gynghorwyr a rheolwyr.
“Os ydyn ni am newid y diwylliant, rhaid i reolwyr ddeall pam a beth rydyn ni’n ei wneud.
“Rydyn ni wedi bod yn trafod hyn â chwmni sy’n cynghori ar iaith, ac yn gobeithio y byddan nhw’n darparu hyfforddiant ym mis Medi neu Hydref.”
Mae’n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r angen i “gydymffurfio â’r Safonau”, meddai.
Sylwadau’r Comisiynydd
Dywed Siôn Rowley ymhellach fod y Cyngor wedi cyfarfod â staff yn Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg oedd yn dweud bod cwsmeriaid yn aros yn rhy hir am ateb ar y llinell ffôn Gymraeg, a bod angen i hyn wella.
Mae angen hefyd i ddogfennau’r Cyngor sy’n cael eu cyhoeddi ar y wefan nodi’n glir fod yna fersiwn Gymraeg ar gael i’w darllen.
“Byddwn ni’n atgoffa rheolwyr fod rhaid gwneud hyn gan ei fod yn ofyniad cyfreithiol,” meddai.
Nodwyd hefyd mai dogfennau uniaith Saesneg yn unig sy’n cael eu diweddaru ar y wefan ar adegau, gyda’r fersiwn Gymraeg heb ei diweddaru.
“Mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Saesneg,” meddai Siôn Rowley.
Yn dilyn cwyn, dywedodd Siôn Rowley wrth y cyfarfod fod gan y Cyngor tan ddiwedd mis Tachwedd i “gywiro, diweddaru a mynd i’r afael â” phroblemau â thudalennau ar y we sy’n darparu manylion am y cynghorwyr sir.
Mae hyn am fod gan fersiwn Gymraeg y dudalen “lawer o Saesneg” arni, a dydy’r ddolen ddim bob amser yn gweithio.
Cynnig datrysiad
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, wrth gynghorwyr y byddai cynllun pellach sy’n ateb y problemau sy’n cael sylw yn yr adroddiad ac sy’n dangos y ffordd ymlaen yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan.
“Yr hyn sy’n bwysig ei nodi o hyn yw fod yna ewyllys wleidyddol ar draws y sbectrwm o ran y panel sy’n cydweithio â Siôn,” meddai.
“Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r iaith ymhlith cynghorwyr ac uwch-reolwyr fel eu bod nhw’n deall cyd-destun polisi a pham fod angen i ni gymryd camau gweithredu.
“Mae angen cynyddu nifer y staff sy’n rhugl yn y ddwy iaith; ar hyn o bryd, dim ond 8.4% sydd â Chymraeg Lefel 4 a 5.”
Mae Lefel 5 yn golygu bod yn hollol rugl.
Gofynnodd y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, am sicrwydd gan y Cabinet y byddai arian yn ei le i “fynd i’r afael â chasgliadau arolygon” fel eu bod nhw’n cael eu “derbyn a’u gweithredu”.
“Mae’r gwelliannau sy’n rhaid i ni eu gwneud yn glir iawn yn yr adroddiad, ac fe fydd yna adnoddau gan fod rhaid eu gwneud nhw,” meddai’r Cynghorydd James Gibson-Watt, Cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd y Cyngor.
Pleidleisiodd y Cabinet o blaid cymeradwyo’r adroddiad, fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn diwedd y mis.