Bydd ffrwd Gymraeg yn cael ei sefydlu mewn ysgol gynradd yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe o fis Medi.
Ond mae Ceidwadwr blaenllaw ym Mhowys eisiau mynd gam ymhellach a sefydlu ysgol Gymraeg.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 20), derbyniodd cynghorwyr adroddiad ar y gwrthwynebiad i sefydlu ffrwd Gymraeg yn Ysgol y Cribarth yn Abercrâf ger Ystradgynlais.
Dywedodd Lynette Lovell, y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant dros dro, wrth gynghorwyr fod un gwrthwynebiad wedi dod i law yn ystod y cyfnod statudol rhwng Ebrill 19 a Mai 23, a bod y materion wedi’u gwrthod gan y Cyngor.
“Dw i wedi fy siomi, ac mae’n dangos diffyg ymrwymiad i’r iaith Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol.
“Fydd e ddim yn sicrhau plant cwbl ddwyieithog.
“Roedd hwn yn gyfle i gyflwyno ysgol Gymraeg drwy gael dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 uniaith Gymraeg, a gweithio drwy’r ysgol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
“Bydd yn creu ysgol dwy ffrwd fydd â deilliannau gwaeth nag ysgol Gymraeg un ffrwd ar gost uwch.”
Cyfle wedi’i golli, neu fodel rôl o ysgol?
Mae’r Cynghorydd Peter Roberts, deilydd portffolio addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, yn credu na ddylid ei ystyried yn “gyfle wedi’i golli” ond yn hytrach fel ysgol sy’n “fodel rôl posib”.
“Dw i’n gwrthod safbwynt y Cynghorydd Davies fod hwn yn gyfle wedi’i golli,” meddai.
“Mae’n gyfle euraid i ddangos nid yn unig i’r gymuned hon ond ledled y sir, os ydyn nhw eisiau symud eu hysgolion yn eu blaenau a chofleidio addysg Gymraeg, mai dyma’r map ffordd y gallan nhw ei ddilyn.
“Fel sydd wedi’i ddangos, mae cefnogaeth gref oddi mewn i’r gymuned ar gyfer symud ar hyd yr union drywydd yma, doedd dim cefnogaeth oddi mewn i’r gymuned i symud tuag at ysgol gwbl Gymraeg.”
‘Cam ymlaen’
“Mae hyn i’w groesawu ac yn gam ymlaen yn nhwf addysg Gymraeg yn nhwf addysg Gymraeg yng Nghwm Tawe,” meddai Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, sy’n cadeirio panel addysg Gymraeg y Cyngor.
“Ond mae teimlad hefyd fod rhaid i hyn fod yn rywbeth symudol.”
Eglurodd fod angen i’r sir “symud i ffwrdd dros amser” o ddwy ffrwd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Gydag Ystradgynlais yn gadarnle’r Gymraeg ym Mhowys, mae’r Cynghorydd Elwyn Vaughan yn credu na ddylai’r “un person ifanc” adael addysg heb fod yn rhugl yn y ddwy iaith.
“Mae’n werth nodi bod 60% o blant yn y dosbarth Derbyn yng Nghribarth eisoes yn y ffrwd Gymraeg,” meddai.
Ychwanegodd fod y panel wedi argymell ailymweld â’r ysgol ymhen “tair i bedair blynedd” er mwyn gweld sut mae’r ffrwd Gymraeg yn dod yn ei blaen, ac a allai’r ysgol barhau ar ei “thaith ar y continwwm iaith” i ddod yn ysgol Gymraeg.
Fe wnaeth y Cabinet dderbyn yr adroddiad o wrthwynebiad yn ffurfiol, gan bleidleisio o blaid cymeradwyo’r cynnig fydd yn gweld y ffrwd Gymraeg yn dechrau yn Ysgol y Cribarth ym mis Medi.