Mae’r rhan fwyaf o Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn Bil Ymfudo Anghyfreithlon Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd y bil ei gefnogi gan 15 aelod o’r Senedd, ond bu i 38 ei wrthod.

Byddai’r cynllun yn anelu i atal pobol rhag croesi’r Sianel mewn cychod bach ac i sicrhau na fyddai unrhyw un sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon yn gallu hawlio lloches.

Fodd bynnag, er bod y bleidlais yn golygu nad yw’r Senedd yn cydsynio i’r bil, dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu na chaiff ei basio gan Senedd y Deyrnas Unedig yn y pen draw.

Er i Aelodau Plaid Cymru, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r Senedd wrthod y Bil, cafodd ei gefnogi gan aelodau o’r Ceidwadwyr Cymreig oedd yn honni y byddai’n cryfhau’r gallu i ddarparu hafan ddiogel ar gyfer ffoaduriaid.

Yn ôl y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, byddai’r cynlluniau yn peryglu torri rhwymedigaethau hawliau dynol y Deyrnas Unedig.

Cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn gynharach yn y flwyddyn fod y ddeddfwriaeth fwy na thebyg yn anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Diwrnod Rhyngwladol y Ffoaduriaid

Digwyddodd y bleidlais ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ffoaduriaid, a dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei bod hi’n “falch iawn o Senedd Cymru”.

“Mae Cymru wedi gwrthod bil gwrth-loches creulon ac anymarferol San Steffan,” meddai.

“Balch fod y Senedd wedi cydsefyll â ffoaduriaid ar #DdiwrnodFfoaduriaidYByd, gan gadw ein dyletswyddau datganoledig i blant a phobol ifanc.”

Bu Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru, yn condemnio’r bil hefyd, gan ddweud ei fod yn “tanseilio hawliau” ceiswyr lloches.

“Ni ddylai unrhyw aelod o’r Senedd gydsynio i fesur sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gymru dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol yn groes i’n setliad datganoli ein hunain,” meddai.

“Mae Plaid Cymru yn sylfaenol yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio hawl a grym y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, ac mae’r darn di-sail hwn o ddeddfwriaeth yn enghraifft berffaith o pam yr ydym yn arddel y farn honno.”

‘Gwbl annerbyniol’

Cafodd yr un farn ei hadleisio gan Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, ddywedodd nad oedd y bil yn cydnabod Cymru fel cenedl wedi ei datganoli.

“Mae’n gwbl annerbyniol [i] lywodraeth y DU… allu tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy geisio penderfynu beth sydd er lles gorau plant neu orfodi dulliau penodol o asesu oedran,” meddai.

Fodd bynnag, dywedodd Mark Isherwood o’r Ceidwadwyr Cymreig y byddai’r blaid yn cefnogi’r gwaharddiad.

“Mae’n rhaid i ni nawr weld ymrwymiad gan lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu argaeledd llwybrau diogel a rheolaidd i’n Deyrnas Unedig gyffredin,” meddai.

“Wrth i ymfudo anghyfreithlon gael ei gyfyngu, bydd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig fwy o allu i ddarparu hafan ddiogel i’r rhai sydd mewn perygl o ryfel ac erledigaeth.

“Ac mae’r mesur yn darparu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymo i ailsefydlu ffoaduriaid bregus o bob rhan o’r byd bob blwyddyn”.