Mae sêl bendith wedi’i roi i ddeddfwriaeth ddrafft er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gatalaneg yn y diwydiant clyweledol yng Nghatalwnia.
Yn ôl Llywodraeth Catalwnia, y nod yw “diweddaru” deddfwriaeth bresennol gan fod “y wlad wedi newid ac mae gwerthoedd newydd mae’n rhaid eu hybu”.
Mae’r llywodraeth yn pwysleisio’r angen i ehangu’r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau’r defnydd o’r Gatalaneg a’r iaith Aranese ar deledu a radio, ac mewn meysydd digidol eraill gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft hefyd yn cynnwys mesurau “arloesol” i fynd i’r afael â phwysau ar yr iaith frodorol.
Eu hargymhelliad yw fod angen i o leiaf 51% o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu fod drwy gyfrwng yr iaith Gatalaneg neu Aranese (iaith Val d’Aran), ond fyddai hyn ddim ond yn berthnasol i’r ardaloedd dan sylw ac nid i Sbaen gyfan.
Yn ôl y llywodraeth, byddai cyflwyno cwotâu ieithyddol ffurfiol “yn anodd”, ond mae’r ffigwr sy’n cael ei grybwyll “yn ddatganiad o fwriad i hybu’r Gatalaneg”.
Mae’n bosib y gallai cosb gael ei datblygu ar gyfer y cwmnïau hynny sydd â’u pencadlys yng Nghatalwnia nad ydyn nhw’n cydymffurfio, meddai’r llywodraeth.
Fel rhan o’r ddeddfwriaeth ddrafft, bydd Cyngor Clyweledol Catalwnia hefyd yn ymestyn eu cylch gorchwyl er mwyn gallu monitro cyfryngau ‘ar-alw’.
Cafodd y ddeddf gyfathrebu bresennol sydd ar waith yng Nghatalwnia ei phasio yn 2005.
Bydd y ddogfen ddrafft newydd bellach yn destun dadl yn y senedd.
Yn y cyfamser, mae’r llywodraeth yn parhau i weithio ar Gytundeb Cenedlaethol ar gyfer yr iaith, fydd yn sail i bolisi iaith y wlad dros y blynyddoedd nesaf.