Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cytundeb newydd rhwng Airbus ac IndiGo, sydd am fod yn hwb economaidd i’r gogledd.

Mae’r ddau gwmni wedi llofnodi’r archeb fwyaf erioed ar gyfer awyrennau, ar ôl i IndiGo archebu 500 o beiriannau jet o safle Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.

Yn ôl Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid, mae’n “newyddion gwych i ogledd Cymru”.

“Mae’r cytundeb enfawr hwn yn fuddsoddiad economaidd yng ngogledd Cymru,” meddai.

“Mae Airbus yn un o’r cyflogwyr mwyaf yng ngogledd Cymru, [ac] mae’r cytundeb yn sicrhau bod y swyddi hynny’n cael eu gwarchod am flynyddoedd i ddod, tra y gallai hefyd gynnig cyfle i ehangu’r gweithlu ar safle Brychdyn.

“Mae’r math hwn o fuddsoddiad i mewn i ddiwydiant Cymru yn union beth sydd ei angen i helpu i wyrdroi diweithdra cynyddol yng Nghymru – tra bod gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweld cynnydd mewn cyflogaeth.”