Mae Plaid Cymru wedi condemnio’r Bil Mudo Anghyfreithlon “yn llwyr” cyn y bleidlais ar y ddeddfwriaeth yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 20).
Bydd Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ynghylch a ddylid atal cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ai peidio.
Nod y Bil yw sicrhau bod y rhai sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig heb ganiatâd yn cael eu cadw a’u halltudio’n brydlon, naill ai i’w mamwlad neu i drydedd wlad fel Rwanda.
Mae nifer o sefydliadau hawliau dynol wedi cytuno bod y Bil yn anghydnaws â chytuniadau hawliau dynol rhyngwladol, y mae’r Deyrnas Unedig wedi’u llofnodi.
Fe ymunodd rhai o Aelodau’r Senedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru y tu allan i’r Senedd heddiw, er mwyn gwrthwynebu’r Bil.
‘Cwbl anghyson ag ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa’
“Mae Plaid Cymru wedi condemnio’r Bil hwn yn llwyr droeon – yn y Senedd ac yn San Steffan,” meddai Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru.
“Dyma Fil sy’n tanseilio hawliau plant a phobol ifanc sy’n geiswyr lloches.
“Mae’r Bil yn gwbl anghyson ag ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa ac yn debygol o dorri Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol ac yn sicr yn culhau cwmpas amddiffyniadau hawliau dynol yn y DU – gan ddileu amddiffyniadau o’r fath yn gyfan gwbl mewn rhai achosion.
“Ni ddylai unrhyw aelod o’r Senedd gydsynio i fesur sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gymru dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol yn groes i’n setliad datganoli ein hunain.
“Mae Plaid Cymru yn sylfaenol yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio hawl a grym y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, ac mae’r darn di-sail hwn o ddeddfwriaeth yn enghraifft berffaith o pam yr ydym yn arddel y farn honno.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd gam ymhellach a chymryd camau i sicrhau bod gan Gymru’r pwerau i atal unrhyw ddeddfwriaeth sy’n anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru.”