Bydd miloedd o blant ar draws Cymru yn rhedeg Ras yr Iaith heddiw (dydd Iau, Mehefin 22) i fwynhau a dathlu’r Gymraeg.

Nid ras arferol yw Ras yr Iaith, ond ras i fwynhau’r Gymraeg gyda ffrindiau.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos balchder ati a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Ac mae’r ras i bawb – os ydych chi’n siarad Cymraeg neu beidio.

Mae’r ras wedi’i seilio ar ras y ‘Korrika’ yng Ngwlad y Basg sydd wedi ysbrydoli ‘Ar Redadeg’, sef ras debyg yn Llydaw.

Ac mae rasys tebyg yn Iwerddon, Catalwnia a Galisia.

Digwyddodd Ras yr Iaith yng Nghymru yn 2014, 2016 a 2018 fel ras ar draws Cymru gan basio baton yr iaith ymlaen o gymal i gymal.

Gyda ras rithiol yn 2020, llwyddodd y Mentrau Iaith a’r rhedwyr i gasglu miloedd o bunnoedd at elusennau’r Byrddau Iechyd yng Nghymru.

Eleni, bydd unarddeg cymal ar draws Cymru ar yr un pryd i greu un digwyddiad mawr ar draws y wlad.

Bydd y Ras mewn trefi fel Llangefni, y Rhyl, Aberystwyth, Wdig, Caerffili ac Abertawe, ymhlith llefydd eraill, gyda rhai cymalau ar hyd promenadau’r trefi a rhai mewn stadiwm, gyda phlant Cei Connah yn cael y cyfle i redeg ar drac Olympaidd.

Bydd ysgolion, grwpiau cymunedol a dysgwyr Cymraeg yn rhedeg gyda’i gilydd a mwynhau adloniant amrywiol – o gig Mei Gwynedd yn Aberystwyth i sesiynau gwawd lunio gyda Siôn Tomos Owen a sesiwn animeiddio ym Mhontypridd.

Bydd ambell i fand lleol a band ysgol yn canu, a bydd rhai pobol adnabyddus yn arwain y Ras.

Bydd Dyfan Parry (Ffit Cymru) yn arwain ym Mhorthcawl a Dewi Pws yn Nefyn.

Cymalau Ras yr Iaith

Llangefni, Ynys Môn

Nefyn, Gwynedd

Y Rhyl, Sir Ddinbych

Cei Connah, Sir y Fflint

Aberystwyth, Ceredigion

Wdig, Sir Benfro

Abertawe

Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Pontypridd, Rhondda Cynon Taf

Caerffili

Pontypŵl, Torfaen

Cymal Abertawe

Daeth nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd ynghyd ar gyfer y cymal yn Abertawe, gan redeg neu gerdded o Blackpill i gae San Helen.

Yr ysgolion oedd wedi cymryd rhan yn y cymal oedd Ysgol Gyfun Gŵyr ac ysgolion cynradd Gellionnen, Bryn y Môr, Tirdeunaw, Tan-y-lan a’r Cwm, ac roedd Mistar Urdd yno i’w hannog nhw ar hyd y daith.

Yn ôl y trefnwyr, roedd tua 200 o blant yno yn cymryd rhan yn y daith o ryw ddwy filltir.