Mae’r chwaraewr rheng ôl Jac Morgan wedi’i enwi’n gapten ar dîm rygbi Cymru i herio Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Awst 5).
Ond does dim sicrwydd ar hyn o bryd mai fe fydd yn arwain y tîm yng Nghwpan y Byd, wrth i’r prif hyfforddwr Warren Gatland ystyried yr holl ymgeiswyr yn eu tro.
Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn ennill ei ganfed cap yn y gêm baratoadol ar gyfer Cwpan y Byd, y nawfed chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir honno ar ôl Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins, George North, Dan Biggar, Stephen Jones, Gareth Thomas, Martyn Williams a Taulupe Faletau.
Mae tri enw newydd yn nhîm Gatland, sef y ddau brop Corey Domachowski a Kieran Assiratti, a’r canolwr Max Llewellyn.
Mae dau enw newydd ar y fainc hefyd, sef Taine Plumtree a Henry Thomas.
Daw Aaron Wainwright i mewn i safle’r wythwr wrth i Taulupe Faletau barhau i wella o anaf i’w goes, tra bydd Sam Costelow yn dechrau yn safle’r maswr a Gareth Davies yn fewnwr.
Fe fu tipyn o drafod am sefyllfa’r capten, wrth i Ken Owens frwydro i chwarae rhyw ran yng Nghwpan y Byd pe bai Cymru’n cymhwyso o’u grŵp, gyda’r bachwr wedi anafu ei gefn.
Fydd Alun Wyn Jones, Justin Tipuric na Rhys Webb ddim ar gael i Gymru ar ôl ymddeol.
Ar ôl bod yn ymarfer yn Nhwrci a’r Swistir, mae gan Gymru dair gêm baratoadol – dwy yn erbyn Lloegr ac un yn erbyn De Affrica – cyn i’r garfan gael ei chyhoeddi a chyn i’r twrnament ddechrau yn Ffrainc.
Bydd Cymru’n herio Ffiji ar Fedi 10, gyda Phortiwgal, Awstralia a Georgia yn cwblhau’r grŵp.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, George North, Max Llewellyn, Rio Dyer; Sam Costelow, Gareth Davies; Corey Domachowski, Ryan Elias, Keiron Assiratti, Dafydd Jenkins, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Jac Morgan (capten), Aaron Wainwright.
Eilyddion
Elliot Dee, Nicky Smith, Henry Thomas, Ben Carter, Taine Plumtree, Tomos Williams, Dan Biggar, Mason Grady.