Mae Chris Cooke, wicedwr y Tân Cymreig, yn dweud bod cael dechrau o’r dechrau am fod yn beth da i dîm criced dinesig Caerdydd yn y Can Pelen eleni.

Maen nhw wedi gorffen ar waelod y tabl a gwaelod ond un yn ystod dau dymor cynta’r gystadleuaeth, ond mae ganddyn nhw brif hyfforddwr newydd, yr Awstraliad Mike Hussey sy’n olynu Gary Kirsten o Dde Affrica, ac mae sawl chwaraewr newydd yn y garfan hefyd.

Mae Cooke, wicedwr Morgannwg, yn un ohonyn nhw ar ôl iddo fe gael ei ddewis i’r Tân Cymreig fel ‘wildcard‘ ar ôl sgorio 419 o rediadau i Forgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, ac ar ôl chwarae i’r Birmingham Phoenix dros y ddau dymor diwethaf.

Mae’r Can Pelen a chael chwarae i’r Tân Cymreig yn “destun cyffro”, meddai wrth siarad â golwg360 ar drothwy’r gêm gyntaf yn erbyn Manchester Originals yng Nghymraeg, sy’n debygol o ddioddef yn sgil y glaw.

Daw dechrau’r gystadleuaeth wrth i Forgannwg gystadlu yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Metro Bank yr wythnos hon, gyda’r ddwy gystadleuaeth yn cyd-redeg.

“Yn amlwg, mae hi braidd yn rhyfedd colli gemau gyda Morgannwg, ond mae’n destun cyffro cael bod yma a dw i’n edrych ymlaen.

“Mae’n teimlo ychydig yn wahanol [i’r Birmingham Phoenix] yn barod.

“Mae’n braf cael bod adref, ac mae’n braf cael bod yn gyfarwydd â’r cae ac mae ambell wyneb cyfarwydd ar y cae hefyd, sy’n beth da.

“Mae’n dda cael y cyfle yma ar gefn cystadleuaeth T20 dda, ac mae’n braf cael fy newis ar gefn perfformiadau cryf.

“Dw i’n teimlo’n hyderus yn fy ngêm, a gobeithio y galla i drosglwyddo hynny i’r Can Pelen.”

Sut mae gwella?

Er bod y Tân Cymreig wedi cael dau dymor siomedig hyd yn hyn, mae’n dweud nad ydyn nhw ymhell ohoni ar drothwy eu trydydd tymor, ac y gallai momentwm yn gynnar yn y twrnament eu helpu nhw.

“Roedd hi’n ymddangos fel pe baen nhw’n agos iawn at ennill gemau,” meddai.

“Mae’n gystadleuaeth fer, felly os gallwch chi fynd ar dipyn o rediad, gallwch chi gadw i fynd.

“Mae llawer o wynebau newydd yn y garfan eleni, felly mae’n teimlo fel dechreuad ffres, all fod yn beth da.

“Mae unrhyw beth yn bosib.

“Os gallwch chi ddechrau’n dda, mae’n gystadleuaeth mor fyr fel nad oes rheswm pam na allwn ni gyrraedd y gemau ail gyfle.”

Hyfforddwyr

Dywed Chris Cooke fod Mike Hussey yn dipyn o arwr iddo pan oedd e’n chwarae i Awstralia, a’i fod e’n edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio â fe eleni.

Mae gan Hussey gryn brofiad o hyfforddi mewn gemau undydd, ac yntau wedi bod yn ymgynghorydd batio i Awstralia, yn Gyfarwyddwr Criced Sydney Thunder yn y Big Bash League, ac yn hyfforddwr batio Chennai Super Kings yn yr IPL yn India.

“Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn,” meddai Chris Cooke am y profiad o gael gweithio gyda Mike Hussey.

“Mae e’n foi gwych, ac mae ei draed ar y ddaear.

“Mae e’n amlwg yn wybodus iawn, ac roedd e’n un o fy arwyr wrth dyfu i fyny, ac ro’n i’n arfer bod wrth fy modd yn ei wylio fe’n batio, felly mae’n grêt cael pigo’i frêns!

“Mae’n amlwg yn ddyddiau cynnar, ond mae’n ymddangos fel pe bai popeth yn asio iddo fe hyd yn hyn.”

Bydd Matthew Maynard a Mark Alleyne, dau brif hyfforddwr Morgannwg, yn cynorthwyo Hussey hefyd.

“A phobol fel yr S&Cs [hyfforddwyr cryfder a chyflyru], mae’n wych cael pobol ar y cae dw i’n eu hadnabod yn eithaf da.”

Gobeithion

O ddechrau’n gryf, mae Chris Cooke yn gobeithio y gall y Tân Cymreig ennyn diddordeb cefnogwyr criced yng Nghymru ar ddechrau’r twrnament.

“Byddai’n braf cael dechrau da, cael pen-olau ar seddi, a chyffroi pobol am y brand o griced rydyn ni’n ei chwarae, a cheisio cael pobol yn dod yn ôl,” meddai.

“Mae’n gêm anodd i ddechrau [yn erbyn Manchester Originals], yn enwedig eu batio, felly bydd hi’n un anodd ond os gallwn ni ddechrau gyda buddugoliaeth, bydd hynny’n rhoi tipyn o hyder i’r garfan.”

  • Darllenwch ragor am y Can Pelen yn Sboniad golwg360:

Can Pelen: beth sydd angen i chi ei wybod am y gystadleuaeth griced ddinesig? – Golwg360