Bydd y Can Pelen, y gystadleuaeth griced ddinesig, yn dechrau ar Awst 1 eleni, gyda’r Tân Cymreig – tîm dinesig Caerdydd – yn herio’r Manchester Originals y diwrnod canlynol.
Bydd y dynion a’r merched yn chwarae eu gêm agoriadol yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod (Awst 2), gyda’r merched yn dechrau am 11.30yb a’r dynion am 3 o’r gloch.
A chriced yn gamp sirol yng Nghymru a Lloegr, cafodd cystadleuaeth ddinesig ei chrybwyll fel fformat newydd sbon yn 2016, gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn awyddus i efelychu’r Indian Premier League (IPL).
Pleidleisiodd yr awdurdodau’n sylweddol o blaid y syniad yn ystod 2016 a 2017, a daeth y syniad o gêm can pelen, yn hytrach nag ugain pelawd neu 120 pelen, gan Sanjay Patel, Prif Swyddog Masnachol yr ECB yn 2017.
Y nod oedd sicrhau bod criced yn hawdd i’w deall fel camp ar gyfer gwylwyr newydd – wel, i fenywod a phlant yn benodol (!) – a rhoi llwyfan gwell i gêm y merched ar yr un pryd.
Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth gynhyrchu elw sylweddol, ond mae adroddiadau diweddar yn awgrymu i’r gwrthwyneb yn llwyr, ac mae’r gystadleuaeth yn dal i hollti barn ffyddloniaid y gêm draddodiadol. Nid cystadleuaeth i’r rhai sy’n gysglyd gyfforddus yn eu cadeiriau haf mo hon…
Ond yn sgil cytundeb darlledu gyda Sky Sports tan 2028, mae’n debygol bod y twrnament a’i randibŵ yma i aros – am y tro, beth bynnag.
Felly, wrth lansio Can Pelen 2023 yr wythnos hon, beth sydd angen i chi ei wybod am y Can Pelen? Dyma ganllaw golwg360…
Beth yw’r Can Pelen?
Cystadleuaeth ddinesig yw’r Can Pelen, gydag wyth tîm dinesig yn herio’i gilydd mewn cynghrair ac yna rowndiau terfynol.
Mae’r gystadleuaeth yn denu rhai o sêr mwya’r byd criced bob tymor, gydag wyth tîm dynion a merched yn cystadlu dros gyfnod o bum wythnos ym mis Awst (anghofiwch wylio criced traddodiadol yn ystod gwyliau’r haf, blantos!). Mae gemau’r dynion a’r merched yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.
Beth yw rheolau’r Can Pelen?
Mae pob tîm yn batio neu’n bowlio am gan pelen yr un (mae’n debyg fod pelawd chwe phelen draddodiadol yn rhy ddryslyd i fenywod a phlant, druan â nhw!), a’r tîm sy’n sgorio’r nifer fwyaf o rediadau sy’n ennill y gêm.
Mae bowliwr yn bowlio deg pelen ar y tro, ac wedyn mae bowliwr arall yn bowlio deg pelen o ben draw’r llain (mae 22 llathen rhwng y naill wiced a’r llall), ac yn ailadrodd hyn drwy gydol y can pelen.
Gall capten y tîm sy’n bowlio ddewis bowlio pum neu ddeg pelen ar y tro, ond does dim hawl gan un bowliwr i fowlio mwy nag ugain pelen mewn gêm.
Mae hawl gan bob tîm sy’n bowlio gael 90 eiliad yn ystod gêm i drafod tactegau gyda’r hyfforddwr ar y cae.
Caiff 25 pelen gynta’r gêm eu galw’n “gyfnod clatsio”. Yn ystod y cyfnod yma, gall dau chwarae sefyll tu allan i’r cylch maesu mewnol… tra bo’r batiwr yn ceisio taro’r bêl dros eu pennau nhw.
Mae pob gêm yn para tua dwy awr a hanner (achos ’dyw menywod na phlant ddim yn gallu canolbwyntio lawer hirach, nac ydyn?!)
Pwy yw’r timau sy’n chwarae?
Mae wyth tîm dinesig yn y gystadleuaeth, ac maen nhw’n cynrychioli saith dinas – Birmingham, Llundain (x2), Manceinion, Leeds, Southampton, Nottingham… ac, wrth gwrs, Caerdydd.
Y timau yw’r Birmingham Phoenix, yr Oval Invincibles, London Spirit, Manchester Originals, Northern Superchargers, Southern Brave, Trent Rockets… a Welsh Fire, neu’r Tân Cymreig. Ond os oeddech chi’n gobeithio am dîm Cymreig go iawn, anghofiwch hi! Does dim chwaraewyr o Gymru yn y twrnament.
Er bod y Tân Cymreig yn cynrychioli Caerdydd ac yn chwarae yng Ngerddi Sophia, mae hefyd yn cwmpasu rhanbarth de-orllewin Lloegr, sef Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw ac mae chwaraewyr y ddwy sir broffesiynol yn chwarae i’r tîm. Does dim llawer o chwaraewyr o Gymru yn y twrnament, ond mae dau chwaraewr o Forgannwg yn chwarae eleni, sef y wicedwr Chris Cooke sy’n hanu o Dde Affrica, a’r chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite o Loegr.
Bydd y dynion a’r menywod yn awyddus i wella ar eu tymhorau blaenorol, gyda’r dynion yn gorffen yn seithfed yn 2021 ac yn wythfed yn 2022, a’r menywod yn gorffen yn wythfed yn 2021 a 2022.
Pwy sy’n chwarae i’r Tân Cymreig?
Capten tîm y dynion yw Tom Abell, sy’n chwarae i Wlad yr Haf, a’r prif hyfforddwr yw cyn-fatiwr Awstralia, Mike Hussey.
Capten y menywod yw Tammy Beaumont, a’r prif hyfforddwr yw Gareth Breese.
Mae’r dynion wedi cryfhau eu carfan dipyn eleni, wrth ychwanegu Stephen Eskinazi, Tom Abell a Glenn Phillips i’w batwyr, a’r tri yn sgorwyr cryf yng nghanol y batiad, sydd wedi bod yn wendid hyd yn hyn i’r Tân Cymreig.
Mae ganddyn nhw seren Lloegr, Jonny Bairstow ar y brig ac yn cadw wiced, tra bod Joe Clarke hefyd yn fatiwr nerthol, ac mae ambell fowliwr yn gallu batio hefyd, gan gynnwys David Willey, Shaheen Afridi a Roelof van der Merwe. Ychwanegwch Haris Rauf i’r pair, ac mae’r garfan yn edrych yn gryf… ar bapur, o leiaf.
Gall tîm y menywod frolio Sophia Dunkley, agorwr Lloegr fu’n chwarae i Southern Brave gynt, a Tammy Beaumont, Hayley Matthews a Laura Harris hefyd yn cryfhau’r uned fatio.
Yr un i’w gwylio, fodd bynnag, yw Shabnim Ismail – y ferch gyflymaf yn y byd gyda’r bêl ar hyn o bryd!
Gall pob tîm ddewis chwaraewyr rhyngwladol domestig a chwaraewyr rhyngwladol.
MENYWOD:
Sophia Dunkley (Rhyngwladol)
Shabnim Ismail (Tramor)
Tammy Beaumont (Rhyngwladol)
Hayley Matthews – (Tramor)
Georgia Elwiss
Freya Davies
Laura Harris (Tramor)
Alex Hartley
Claire Nicholas
Sarah Bryce
Emily Windsor
Ella McCaughan
Alex Griffiths
Chloe Skelton
Kate Coppack
DYNION:
Jonny Bairstow (Rhyngwladol)
Tom Abell
David Willey
Shaheen Afridi (Tramor)
Joe Clarke
Glenn Phillips (Tramor)
Ben Green
Haris Rauf (Tramor)
David Payne
Roelof van der Merwe
Jake Ball
Stevie Eskinazi
Dan Douthwaite
George Scrimshaw
Luke Wells
Chris Cooke
Mae’r Gymraes Sophia Smale yn aros gyda’r Oval Invincibles, tra bod Seren Smale yn chwarae i Southern Brave.
Sut mae gwylio’r Can Pelen?
Mae modd gwylio’r Can Pelen ar y we neu ar deledu daearol neu loeren – ar BBC 2 a/neu Sky Sports. Dyma’r unig griced byw mae’r BBC yn ei dangos ar hyn o bryd.
Mae’r Gorfforaeth yn dangos 16 o gemau’n fyw, gan gynnwys y gemau agoriadol a rowndiau terfynol y dynion a’r menywod, tra bod 68 o gemau’n cael eu dangos ar draws Sky Sports Mix, Sky Sports Main a Sky Sports Cricket.
Fe wnaeth dros 14.1m o bobol wylio’r gystadleuaeth ar deledu neu’r we y tymor diwethaf.
Pwy yw’r timau i’w curo?
Trent Rockets enillodd gystadleuaeth y dynion y tymor diwethaf, a Southern Brave yn 2021.
Oval Invincibles sydd wedi ennill twrnament y menywod yn y ddau dymor ers ei sefydlu.
Ydy’r Can Pelen yma i aros?
Ydy, yn ôl yr ECB.
Ond heblaw’r rhai sy’n amheus neu sy’n gwrthod cofleidio’r gystadleueath yn llwyr (nid awdur y darn yma, na, nefar!), mae bygythiad newydd ar ei ffordd, yn ôl pob tebyg – Major League Cricket (MLC) yn yr Unol Daleithiau, cystadleuaeth newydd sbon mae’r trefnwyr, American Cricket Enterprises, yn gobeithio fydd yn gosod criced ochr yn ochr â’r campau Americanaidd traddodiadol – pêl-fasged, pêl-fas a phêl-droed Americanaidd. Breuddwyd gwrach? Digon posib!
Mae’r twrnament ar y gweill ers Gorffennaf 13, gyda chwe thîm dinesig yn herio’i gilydd dros gyfnod o dair wythnos yn Texas a Gogledd Carolina, ac mae’n dod i ben ar Orffennaf 30.
Fe fu sawl ymgais i sefydlu cynghrair ugain pelawd yn yr Unol Daleithiau, ac fe fu’n rhaid gohirio’r cynlluniau diweddaraf o ganlyniad i Covid-19. Ond y gobaith yw y bydd y Major League Cricket yn hwb i wella cyfleusterau ar draws yr Unol Daleithiau ac i roi’r wlad ar y map mewn camp newydd, anghyfarwydd i lawer yno.