Bydd gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn “enfawr”, yn ôl un o gyn-chwaraewyr tîm y dynion.
Wrth rannu ei farn ar obeithion tîm Warren Gatland yn y twrnament yn Ffrainc fis Medi, dywed Rhys Priestland fod tîm arbennig o dda gan Ffiji.
Bydd Cymru’n herio Ffiji ar Fedi 10, gyda Phortiwgal, Awstralia a Georgia yn cwblhau’r grŵp.
Yn y cyfamser, mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm ar gyfer herio Lloegr yng Nghaerdydd dydd Sadwrn (Awst 5) yn y gemau paratoadol.
Y chwaraewr rheng ôl Jac Morgan fydd yn gapten, tra bod disgwyl i Leigh Halfpenny ennill ei ganfed cap.
Ar ôl bod yn ymarfer yn Nhwrci a’r Swistir, mae gan Gymru dair gêm baratoadol at Gwpan y Byd – dwy yn erbyn Lloegr ac un yn erbyn De Affrica – cyn i’r garfan gael ei chyhoeddi a chyn i’r twrnament ddechrau yn Ffrainc.
Bydd holl gemau Cymru yng Nghwpan y Byd yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, gyda Gareth Charles yn brif sylwebydd, a’r tîm o ddadansoddwyr yn cynnwys Rhys Priestland a Mike Phillips.
‘Gêm enfawr yn erbyn Ffiji’
Mae Rhys Priestland a Mike Phillips, y ddau yn gyn-chwaraewyr tîm Cymru, wedi bod yn rhannu eu barn ar obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd gyda golwg360.
“Yn amlwg mae’r gêm yn erbyn Ffiji yn enfawr,” meddai Rhys Priestland.
“Mae tîm arbennig o dda gyda nhw, mae’r chwaraewyr yn rhai o’r gorau yn y byd.
“Ond fi’n ffeindio y gallan nhw ddod mas o’r grŵp a jyst edrych ar draw Cwpan y Byd, yn hanner Cymru yn gallu maeddu unrhyw un o’r timau yn fan yna.”
‘Unigolion talentog’
Dywed Mike Phillips fod tîm Cymru wedi bod yn gwella gyda’i gilydd dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae yna unigolion yn eu tîm nhw mor dalentog, peryglus dros ben,” meddai’r cyn-fewnwr.
“Os ydyn ni yn cael y fuddugoliaeth yna, bydd yr hyder yn y garfan wedyn a gall unrhyw beth ddigwydd â bod yn onest.
“Ond y peth cyntaf yw mynd ma’s o’r pool, ac wedyn mewn i’r chwarteri, a gweld beth sy’n mynd i ddigwydd o fan yna.”