Mae Matt Sherratt wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr Rygbi Caerdydd.
Mae e wedi bod yn hyfforddwr olwyr a hyfforddwyr ymosod y rhanbarth yn y gorffennol, ac mae’n camu i fyny i’r brif swydd yn dilyn ymadawiad y Cyfarwyddwr Rygbi Dai Young tros honiadau o fwlio.
Mae Sherratt hefyd wedi gweithio gyda’r Gweilch a Chaerwrangon, ac fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 2021.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r rhanbarth wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan Her Ewrop, ac fe fu’n gyfrifol am ddatblygu doniau ifainc y rhanbarth hefyd, all fod yn bwysig wrth iddyn nhw wynebu toriadau yn eu cyllideb dros y blynyddoedd nesaf.
Dywed Matt Sherratt ei bod yn “fraint enfawr” derbyn y swydd gyda “chlwb a dinas hanesyddol”.
Bydd Richie Rees yn parhau ar y tîm hyfforddi, ac mae disgwyl i ragor o benodiadau gael eu cadarnhau maes o law.
Dywed y rhanbarth eu bod nhw’n “hyderus” eu bod nhw wedi penodi’r person iawn i’r swydd, a’i fod e’n “barod am yr her”.