Mae tîm criced Morgannwg yn dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, gyda thaith i Swydd Gaerwrangon heddiw (dydd Gwener, Awst 4).
Mae’n debygol y caiff y to iau gyfle i serennu yn y gystadleuaeth hon unwaith eto eleni, gyda’r Can Pelen, y gystadleuaeth ddinesig, yn cael ei chynnal ar yr un pryd.
Bydd Kiran Carlson yn gapten unwaith eto y tymor hwn, ac yntau wedi arwain y sir i’r tlws yn 2021 wrth guro Durham yn Trent Bridge yn y rownd derfynol.
Ymhlith y rhai fydd yn cael cyfle i chwarae am y tro cyntaf mewn gemau undydd i’r sir mae Ben Kellaway, Ben Morris, Will Smale ac Alex Horton, tra bydd chwaraewyr mwy profiadol fel Sam Northeast a Timm van der Gugten yn cael gorffwys ar gyfer y ddwy gêm gyntaf.
Ond mae lle i’r seren dramor Colin Ingram, sydd wedi sgorio bron i 8,000 o rediadau mewn gemau undydd yn ystod ei yrfa, ar gyfartaledd ychydig dros 48, gan daro 50 hanner canred a 19 canred.
Bydd Morgannwg yn ceisio rhagori ar y tymor diwethaf drwy gymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf, ar ôl colli allan o un pwynt i Gaint y llynedd.
Mae Swydd Gaerwrangon eisoes wedi dechrau’n gryf, gyda buddugoliaeth oddi cartref o 42 rhediad dros Durham ddechrau’r wythnos.
Bydd David Harrison yn hyfforddi’r tîm yn y gystadleuaeth yn absenoldeb y prif hyfforddwr Mark Alleyne, sydd wedi ymuno â’r prif hyfforddwr arall Matthew Maynard gyda’r Tân Cymreig yn y Can Pelen.
Andrew Salter yn ymddeol
Yn y cyfamser, mae Andrew Salter, y troellwr o Sir Benfro, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.
Chwaraeodd e i’r tîm cyntaf mewn gemau undydd yn 2012, gan chwarae rhan flaenllaw wrth i Forgannwg godi’r tlws 40 pelawd y tymor canlynol yn Lord’s.
Daeth ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf yn 2013 hefyd, wrth iddo gipio wiced Shiv Thakor gyda’i belen gyntaf.
Roedd e hefyd yn aelod blaenllaw o garfan Morgannwg enillodd Gwpan Royal London yn 2021, gan ennill gwobr seren y gêm yn Trent Bridge.
Chwaraeodd e 226 o weithiau i’r sir ar draws yr holl gystadlaethau, a daeth ei ffigurau gorau gyda’r bêl – saith wiced am 45 – yn erbyn Durham y tymor diwethaf.
Y tu hwnt i’r cae chwarae, mae ganddo fe sawl menter ar y gweill, gan gynnwys ei fusnes Baffle Culture, brand sy’n canolbwyntio ar feiciau modur ac sydd wedi tyfu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn gorfforol ar ei safle yn y Fenni.
Enillodd ei fusnes wobr gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn 2020.
Dywed ei fod yn camu i ffwrdd o’r byd criced “ag atgofion fydd yn para oes”, ac mai ei brif emosiwn yw “diolchgarwch” a’i fod e “wedi gwireddu breuddwyd” wrth gynrychioli Morgannwg am ddegawd.
“Diolch i’r clwb am roi’r cyfle i droellwr ifanc o Sir Benfro gael chwarae o amgylch y byd, i gyd-chwaraewyr am rannu’r antur, ac i wrthwynebwyr am wneud i’r pelenni gweddol edrych yn well!
“Yn olaf, diolch i’r cefnogwyr am greu ambell awyrgylch fythgofiadwy, a’r mwyaf ohonyn nhw yn rownd derfynol y gwpan undydd yn Trent Bridge. Bydda i’n trysori’r atgof am byth.”
Wrth dalu teyrnged iddo, dywed y Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace ei fod e wedi bod yn “aelod hynod boblogaidd o’r garfan” a’i fod e “wedi cael cryn ddylanwad ar y cae ac oddi arno” gyda’i berfformiad yn Trent Bridge “yn aros yn hir yn y cof”.
Dywed ei fod yn chwaraewr “anhunanol gan roi’r tîm yn gyntaf bob amser”, a’i fod yn “ymgorffori ysbryd cynrychioli’r clwb fel esiampl i eraill”.
Dim Chris Cooke, ond cyfle i Gymro ifanc
Un fydd ar goll o garfan Morgannwg yw’r wicedwr Chris Cooke, fydd yn chwarae i’r Tân Cymreig yn y Can Pelen, ond mae hynny’n rhoi cyfle i’r wicedwr ifanc Alex Horton o Drecelyn.
Wrth siarad â golwg360, mae’r wicedwr profiadol wedi bod yn canu clodydd y chwaraewr 19 oed.
“Mae ganddyn nhw dîm da iawn, a dw i’n meddwl bod y bois wedi cyffroi am gael dechrau arni,” meddai Chris Cooke, wicedwr Morgannwg fydd yn chwarae i’r Tân Cymreig yn y Can Pelen eleni, sy’n golygu na fydd e ar gael i’r sir Gymreig.
“Alla i ddim gweld pam na allwn ni ailadrodd yr hyn wnaethon ni ddwy flynedd yn ôl.
“Bydd cyfle i rai o’r bois iau a rhai o’r bois ar gyrion y tîm cyntaf eleni, felly dw i’n siŵr y byddan nhw wedi cyffroi o gael rhoi eu henwau ymlaen.
“Mae’n gyfle gwych i [Alex Horton].
“Mae gan Horts ddyfodol disglair o’i flaen, ac mae e’n addawol iawn.
“Dw i wedi cyffroi drosto fe, a gobeithio y bydd e’n mwynhau’r gystadleuaeth ac yn cyfrannu at fuddugoliaethau.”
Gemau’r gorffennol
Cael a chael yw hi rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon o ran gemau’r gorffennol.
Morgannwg aeth â hi o 19 rhediad y tymor diwethaf yn New Road, wrth i Northeast daro 177 heb fod allan a Billy Root 113 heb fod allan wrth i’w tîm sgorio 356 am dair.
Roedd y Saeson yn fuddugol o 178 o rediadau y tro blaenorol yn 2010, ac o saith wiced yn 2008.
Morgannwg enillodd, o bum wiced, yn 2005.
Roedd y sir Gymreig yn fuddugol o 22 rhediad yn 2002, pan godon nhw’r tlws, ond y Saeson aeth â hi o dri rhediad y tymor canlynol.
Carfan Swydd Gaerwrangon: Azhar Ali, B D’Oliveira, R Jones, J Libby (capten), Kashif Ali, B Cox, M Waite, J Leach, J Baker, D Pennington, B Gibbon, E Pollock, G Roderick, C Jones, H Darley
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, T Bevan, B Morris, H Podmore, W Smale, P Sisodiya, J McIlroy, A Horton, C Ingram, E Byrom
Gwobrwyo cynlluniau bywyd troellwr Morgannwg ar ôl criced
Y cricedwr ifanc “all fynd yn bell”